Home » Cerddwyr Cylch Teifi
Cymraeg News

Cerddwyr Cylch Teifi

Cerddwyr Cylch Teifi yn mwynhau ar draeth Aber-bach ar daith mis Ebrill
Cerddwyr Cylch Teifi yn mwynhau ar draeth Aber-bach ar daith mis Ebrill
Cerddwyr Cylch Teifi yn mwynhau ar draeth Aber-bach ar daith mis Ebrill

REG DAVIES oedd yn arwain yn fedrus iawn ym mis Ebrill yn ardal Dinas ac Aber-bach. Bu’n daith gylch brydferth, hanesyddol a Reg yn rhoi gwybodaeth a hanesion i ni bob hyn a hyn.

Ar ôl cerdded ar lwybrau o Gapel Tabor a lan trwy’r coed, cyrhaeddon ni fferm Tre-wrach, ac wedyn cerdded yn hamddenol i lawr i draeth anghysbell Aber-bach, lle roedd digon o amser i hamddena cyn dychwelyd i’r Capel. Mwynheuon ni olygfeydd godidog, a thywydd da, ar hyd y daith.

Ym mis Mai, 14eg, cerddwn yn ardal Cwm Soden a Chastell Bach, ger Cwmtydu, gan adael man parcio Eglwys Llandysiliogogo (SN363 572) (Cod post SA44 6LH), am 10.30yb.

Howard Williams fydd yr arweinydd eto. Mae’r man parcio ryw 200 metr yn brin o Eglwys St Tysilio.

O’r A487 rhwng Plwmp a Synod trowch i Gaerwedros, mynd trwy’r pentref a syth ymlaen, ar draws yr heol rhwng Llwyndafydd a Nanternis, tuag at Gwmtydu; ar ôl rhyw filltir trowch i’r dde tuag at yr eglwys.

Nid oes lle i fwy na rhyw 15 car ar y tir pwrpasol ond gallwn barcio’n ofalus hefyd ar y borfa ar hyd yr heolydd o bobtu’r gyffordd. Er hynny, fe fydd yn syniad da dod â chyn lleied o geir ag y bo modd, er enghraifft drwy gwrdd â gyrwyr eraill yng Nghwmtydu a rhannu ceir wrth fynd ymlaen.

Dewch mewn da bryd i ddechrau fel arfer ar y daith am 10:30, os gwelwch yn dda. Awn ar daith gylch ddwy awr tua dwy filltir ar lwybrau da; dros gaeau i’r penrhyn i’r gogledd o Gwmtydu, ar lwybr yr arfordir i lawr i Draeth Cwm Soden (serth mewn mannau) ac wedyn lan y Cwm a’i lethr ddeheuol i’r Eglwys.

Bydd esgyniad o ryw 350 troedfedd, yn bennaf wrth ddringo’r llwybr serth gyda llawer o risiau ar y diwedd i gyrraedd yr eglwys. Wrth gerdded, cawn weld golygfeydd gwych o’r arfordir, blodau ar eu gorau, Castell Bach, caer amlwg o’r Oes Haearn, cwm prydferth, rhaeadrau annisgwyl, ac eglwys mewn llecyn hyfryd. Ac wedyn bydd cyfle i gael lluniaeth yn y Crown yn Llwyndafydd neu yn y Caffi yng Nghwmtydu.

Fis Mehefin 11eg, byddwn yn ardal Cilgerran a Llechryd gydag Emyr Phillips yn arwain, a hon fydd ein taith olaf y tymor hwn. Cychwynnwn o Faes Parcio Neuadd Cilgerran (SN 198 428 Cod post: SA43 2TE). Dewch mewn da bryd i ddechrau ar y daith am 10:30, os gwelwch yn dda.

Yna, awn ar daith gylch 3.2 milltir (rhwng 2 a 2½ awr), hanner ar lwybrau cyhoeddus i lawr i’r ceunant ac ar hyd yr afon i Bont Llechryd, a’r hanner arall ar y ffyrdd cul rhwng Llechryd a Chilgerran. Bydd angen gofal wrth yr afon (yn enwedig lle cafodd y llwybr ei erydu) ac ar y ffyrdd (sy’n weddol brysur ar adegau).

online casinos UK

Does dim sticlau ond mae esgyniad o ryw 200 troedfedd. Dysgwn ni am hanes y diwydiant llechi, gwaith tin Llechryd, plasty teulu Hammet, y trap pysgod, yr odyn galch i’r gogledd o’r afon, cysylltiad yr afon â’r rhain i gyd, a lleoliad “Hen Bentref Llechryd”. Ar ôl cerdded, bydd cyfle i gael lluniaeth yn y Cardiff Arms yng Nghilgerran.

Author