Home » Cerflun eiconig yn cyrraedd Y Senedd yng Nghaerdydd
Cymraeg

Cerflun eiconig yn cyrraedd Y Senedd yng Nghaerdydd

BYDD cerflun eiconig Weeping Window, gan yr artist Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper, i’w weld o yfory ymlaen, ddydd Mawrth 8 Awst, y tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd, fel rhan o daith ledled y DU a drefnwyd gan 14-18 NOW, sef rhaglen gelfyddydol y DU i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Y Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yw un o’r adeiladau mwyaf eiconig yng Nghymru. Bydd cerflun Weeping Window, sy’n cynnwys miloedd o babïau seramig, i’w weld rhwng 8 Awst a 24 Medi 2017.

Mae’r arddangosfa yn rhan o raglen o ddigwyddiadau yng Nghymru i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, sydd wedi’i threfnu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei chynnal ledled y wlad. Bydd arddangosfa Weeping Window yn cyd-fynd â chanmlwyddiant Brwydr Passchendaele, lle y bu farw llawer o Gymry, gan gynnwys y bardd enwog Hedd Wyn.

Mae Weeping Window yn un o ddau gerflun a gymerwyd o’r celfwaith Blood Swept Lands and Seas of Red – gwaith yr artist Paul Cummins yw’r pabïau a’r cysyniad gwreiddiol a dyluniwyd y gosodiad gan Tom Piper. Cafodd y gosodiad ei arddangos yn wreiddiol yn Nhŵr Llundain yn 2014, lle’r oedd 888,246 o babïau i’w gweld, sef un ar gyfer pob milwr Prydeinig neu drefedigol a laddwyd ar y ffrynt yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Lluniwyd y gosodiad gan Paul Cummins Ceramics Limited ar y cyd â’r Palasau Brenhinol Hanesyddol. Weeping Window yw’r rhaeadr o babïau a oedd i’w gweld yn llifo allan o ffenestr uchel i lawr at y glaswellt oddi tani.

Am y tro cyntaf, bydd ymwelwyr yn gallu gweld y cerflun o bob ochr, gan gynnwys y tu ôl, drwy furiau gwydr y Senedd.

Bydd cyfle i ymwelwyr iau ddilyn llwybr arbennig o amgylch y Senedd neu rhoi cynnig ar wneud pabi. I’r rhai sydd ychydig yn hŷn, bydd teithiau hanner awr ar gael am ddim bob awr yn trafod pam fod democratiaeth yn y Senedd yn bwysig i sicrhau cymdeithas heddychlon. Bydd ymwelwyr yn cael eu hannog i gofnodi eu teimladau.

Hefyd, bob nos Iau ym mis Awst, bydd y Senedd ar agor tan 20.00 er mwyn i ymwelwyr weld y cerflun wrth i’r golau newid, a bydd caffi’r Senedd hefyd ar agor yn hwy.

Ochr yn ochr â Weeping Window bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd yn cynnal arddangosfa o’r enw Menywod, Rhyfel a Heddwch. Mae Lee Karen Stow, y ffotonewyddiadurwr enwog, yn dod â’i harddangosfa fyd-enwog i Gymru, yn cynnwys portreadau ychwanegol a gomisiynwyd yn arbennig i ddangos effaith y rhyfel ar fenywod Cymru.

Dywedodd Ann Jones AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mae’n fraint ac yn anrhydedd croesawu’r cerflun eiconig hwn i’n Senedd eiconig ni.

“Mae’n ganolbwynt ar gyfer bywyd dinesig a gwleidyddol yng Nghymru ac mae’n briodol ein bod yn nodi’r aberth a wnaed gan gynifer o fenywod a dynion yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf drwy arddangos y darn teimladwy hwn o gelf.

online casinos UK

“Drwy ddangos delweddau Lee Karen Stow a Weeping Window, mae’r Senedd yn ein gwahodd i gymryd amser i fyfyrio ar fywydau’r holl bobl hynny a fu’n brwydro i amddiffyn democratiaeth a’n ffordd o fyw.”

Dywedodd Jenny Waldman, Cyfarwyddwr 14-18 NOW: “Mae’r pabïau wedi swyno miliynau o bobl ledled y DU, ac rydym wrth ein bodd i gael cyfle i weithio gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno Weeping Window yn y Senedd yng Nghaerdydd. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r artist Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper am y ddau ddarn hynod bwerus hyn o gelf sydd o arwyddocâd cenedlaethol ac sy’n parhau i ysbrydoli pawb sy’n eu gweld.”

Mae teithiau Wave a Weeping Window gan 14-18 NOW yn rhoi cyfle i bobl ledled y DU deimlo effaith y pabïau seramig mewn lleoliadau amrywiol sydd â chysylltiad â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ers i’r teithiau ddechrau yn 2015, mae dros 2.7 miliwn o bobl wedi gweld y ddau gerflun. Bydd Wave a Weeping Window yn parhau i gael eu harddangos mewn lleoliadau penodol o amgylch y DU, gan gyrraedd IWM North ac IWM Llundain yn ystod yr hydref yn 2018.

Yn dilyn yr arddangosfa yng Nghaerdydd, bydd Weeping Window yn ymddangos yn Amgueddfa Ulster yn Belfast rhwng 14 Hydref a 3 Rhagfyr 2017. Bydd Wave i’w weld yng Nghofgolofn Lyngesol Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn Plymouth rhwng 23 Awst a 19 Tachwedd 2017.

Mae Wave a Weeping Window wedi cael eu cadw i’r genedl gan Ymddiriedolaeth Backstage a Sefydliad Clore Duffield. Cafwyd cymorth ariannol ar gyfer yr arddangosfeydd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae’r gwaith o godi arian ar gyfer y teithiau yn parhau.

DAF Trucks yw’r noddwr trafnidiaeth ar gyfer yr arddangosfeydd yn y DU, ac mae 14-18 NOW yn falch iawn o fod yn bartner i DAF wrth droi’r prosiect hanesyddol hwn yn realiti. Cefnogir y rhaglen ddysgu ac ymgysylltu sy’n cyd-fynd â thaith y pabïau gan Sefydliad Foyle.

Author