Home » Chwech yn brwydro dros Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2016
Cymraeg

Chwech yn brwydro dros Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2016

‘Ewch amdani, dyma eich cyfle i ddisgleirio!’: Bryn Terfel
‘Ewch amdani, dyma eich cyfle i ddisgleirio!’: Bryn Terfel

AR NOS SUL, Hydref 16 bydd chwech o dalentau perfformio mwyaf dawnus Cymru yn cystadlu am wobr o £4,000 a’r teitl anrhydeddus, ‘Enillydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2016’.

Bydd yr holl gyffro a’r perfformiadau o Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog i’w gweld yn fyw ar S4C yng nghwmni Trystan Ellis-Morris ac fe noddir y wobr eleni gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant.

Nod y wobr a sefydlwyd ym 1999 yw meithrin talent rhai o berfformwyr ifanc gorau Cymru.

“Rydw i’n falch iawn o weld yr Ysgoloriaeth yn mynd o nerth i nerth, a gweld safon uchel o dalent perfformio unwaith eto eleni,” meddai Bryn Terfel mewn neges o anogaeth i gystadleuwyr eleni.

“Gwnewch yn siŵr eich bod fel cystadleuwyr yn gwrando ar gyngor yr arbenigwyr ond gan gadw stamp personol ac unigryw ar berfformiad, a’ch bod yn gyfforddus ar y llwyfan perfformio. Cofiwch hefyd geisio cadw rheolaeth ar y nerfau, gan eu troi yn fantais yn hytrach nag yn anfantais. Ac yn bwysicach na dim, cofiwch fwynhau perfformio a rhoi eich gorau. Ewch amdani, dyma eich cyfle i ddisgleirio!”

Y chwech sy’n cystadlu eleni yw Jâms Coleman o Landegfan, Ynys Môn; Steffan Hughes o Ddinbych; Rhydian Jenkins o Faesteg; Bethan Elin o Fryngwran, Ynys Môn; Lleucu Parri o Gaerdydd a Meilir Jones o Langefni, Ynys Môn.

Dechreuodd eu taith wedi iddynt gael eu dewis gan banel o feirniaid, oedd yn gorfod dethol y chwe unigolyn mwyaf addawol o blith holl gystadlaethau unigol y categorïau dan 25 oed ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir y Fflint eleni.

Y panel fydd yn cael y dasg anodd o ddewis yr enillydd ar y noson yw Ann Atkinson, Owain Llwyd, Gwennan Gibbard, Meinir Siencyn ac Ann Fychan.

Yn ogystal â chael eu dewis i fod yn rhan o’r gystadleuaeth, mae’r chwech yn derbyn dosbarthiadau meistr gan berfformwyr amlwg gan gynnwys y gantores Siân James, y ddawnswraig Cerian Phillips a’r pianydd Iwan Llewelyn Jones.

Ymysg cyn-enillwyr yr Ysgoloriaeth mae’r actores Mirain Haf, y soprano Fflur Wyn, yr actor Aled Pedrick a’r feiolinydd Rakhi Sing.

online casinos UK

Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2016 Nos Sul 16 Hydref 7.00, Isdeitlau Saesneg.

Author