Home » Chwifio’r faner enfys
Cymraeg

Chwifio’r faner enfys

Baner Enfys : Yn chwifio ar hanner mast ar adeilad Cyngor Sir Ceredigion ym Mhenmorfa.
Baner Enfys : Yn chwifio ar hanner mast ar adeilad Cyngor Sir Ceredigion ym Mhenmorfa.
Baner Enfys : Yn chwifio ar hanner mast ar adeilad Cyngor Sir
Ceredigion ym Mhenmorfa.

MAE’R FANER enfys yn chwifio ar hanner mast ar adeilad Cyngor Sir Ceredigion ym Mhenmorfa er cof am ddioddefwyr a’r rhai a gollwyd yn yr ymosodiad yn nhalaith Florida.

Mae’r faner enfys yn chwifio ar hanner mast ar adeilad Cyngor Sir Ceredigion ym Mhenmorfa er cof am ddioddefwyr a’r rhai a gollwyd yn yr ymosodiad yn nhalaith Florida.

Bu i 50 o bobl eu lladd o ganlyniad i saethu yng nghlwb nôs hoyw Pulse yn Orlando yn oriau mân fore Sul (12 Mehefin). Cafodd 53 o bobl eu hanafu yn y digwyddiad y mae’r heddlu yn ei ddisgrifio fel gweithred derfysgol.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: “Dyma ein teyrnged ni i’r rhai a gollwyd yn y gyflafan erchyll yn America, a byddem yn hoffi dangos ein cydymdeimlad i’r holl bobl sydd wedi colli ffrindiau, aelodau o’u teulu, a rhai agos yn yr ymosodiad arswydus yma.”

Author