Home » “Chwyldroi’r mynediad at ein hanes a’n diwylliant”: Paul Davies
Cymraeg

“Chwyldroi’r mynediad at ein hanes a’n diwylliant”: Paul Davies

AR safle’r blog Gwydir heddiw, (https://bit.ly/PaulDaviesCymraeg) mae Arweinydd yr Wrthblaid yn Senedd Cymru, Paul Davies AS, yn esbonio sut fyddai Llywodraeth Geidwadol Cymreig yn “chwyldroi’r mynediad at ein hanes a’n diwylliant”, yn ystod wythnos pan fyddai pobl yn ymgynnull fel arfer ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, a chyfarfod â ffrindiau o bob rhan o Gymru.

Yn yr erthygl, mae Paul yn edrych tua’r dyfodol ac yn cyhoeddi pum addewid y byddai Llywodraeth Geidwadol Cymreig yn eu rhoi ar waith ar gyfer Cymru gyfan i wella’r mynediad at ein hanes a’n diwylliant, yn cynnwys Oriel Gelf Genedlaethol gyda chasgliadau yng Ngogledd a De Cymru, Amgueddfa Filwrol Genedlaethol a leolir yn Aberhonddu gydag arddangosfeydd ledled Cymru, Arsyllfa Genedlaethol, arddangosfa barhaol gan y Llyfrgell Genedlaethol yng Nghaerdydd ynghyd ag Aberystwyth a safle gwell i’r Archifau Cenedlaethol yng Nghymru.

Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, mae erthygl Paul yn archwilio beth mae hunaniaeth yn ei olygu yn y Gymru fodern, gan fyfyrio ar y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, ac ystyried sut mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi chwarae rhan hanfodol yn hyrwyddo diwylliant Cymru. Ysgrifennodd Paul: “Er bod ein gwrthwynebwyr yn ei chael hi’n anodd cydnabod hynny, mae’r sefydliadau sy’n benodol i Gymru wedi ffynnu’n aml am fod llywodraethau Ceidwadol wedi eu gyrru yn eu blaen.”

Mae’n mynd yn ei flaen i ddweud: “mae llawer ohonom yn cofio sefydlu S4C, corffori’r Gymraeg yn y cwricwlwm, a chreu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn glir. Gwaith y Blaid Geidwadol oedd hyn oll, ac mae’n rhaid cydnabod, gwaith Syr Wyn Roberts yn benodol. A lwyddodd unrhyw wleidydd Cymreig erioed i gyflawni mwy dros hunaniaeth a diwylliant Cymru na Syr Wyn? Ond unwaith eto, mae gormod o sylwebwyr a haneswyr yn obsesu ynghylch refferenda datganoli ac yn anwybyddu popeth nad yw’n gweddu i’w naratif.”

Yn fwy diweddar, mae Paul yn ystyried effaith arweinyddiaeth Nick Bourne ar Blaid Geidwadol Cymru a llwyddiant y cyn Ysgrifennydd Gwladol, Cheryl Gillan, a oruchwyliodd y bleidlais i estyn pwerau Cynulliad Cymru yn 2011 ac a gychwynnodd y broses a elwid y Comisiwn Silk, a roddodd bwerau codi trethi ac amrywio trethi i Lywodraeth Cymru am y tro cyntaf ers 800 mlynedd.

Fodd bynnag, mae Paul yn mynegi ei bryderon ynglŷn â sut, “fel Ceidwadwyr, rydym wedi methu esbonio beth a wnaethom a pham y’i gwnaethom yn rhy aml o lawer. Rydym wedi derbyn cael ein hysgubo i gyrion hanes oherwydd, mewn gwirionedd, mae cydnabod bod y Ceidwadwyr Cymreig yn bodoli hyd yn oed yn wrthun i lawer o bobl”.

Mae Paul yn gorffen trwy ysgrifennu: “Fel Ceidwadwyr Cymreig byddwn nid yn unig yn gwarchod – byddwn yn diogelu, byddwn yn gwerthfawrogi, a byddwn yn hybu hanes Cymru, y Gymraeg, a diwylliant Cymru.”

Author