Home » Sêr Seland Newydd wedi gosod y safon
Cymraeg

Sêr Seland Newydd wedi gosod y safon

WRTH i gystadleuaeth Super Rugby Aotearoa gyrraedd ei ddiweddglo, mae sylwebydd Clwb Rygbi, Gareth Charles, yn credu fod timau Seland Newydd wedi gosod safon rhyfeddol i weddill y byd rygbi i’w ddilyn.

Ar benwythnos olaf y gystadleuaeth rhwng pum tîm proffesiynol y wlad, bydd y Blues a’r Crusaders, yn mynd benben â’i gilydd yn Eden Park, tra bod Highlanders yn croesawu’r Hurricanes i Stadiwm Forsyth Barr yn Dunedin. Bydd uchafbwyntiau o’r ddwy gêm i’w gweld ar Clwb Rygbi, am 9.00 ar nos Sul 16 Awst, ar S4C.

Dywedodd Gareth, sydd yn rhan o’r tîm sylwebu ar gyfer y rhaglen: “Mae e wedi bod yn ffantastig i’r gwylwyr sydd wedi bod heb rygbi ers shwt gymaint. O’r cychwyn cyntaf, mae drama wedi bod ym mhob gêm. Doeddwn i ddim cweit yn disgwyl iddo fod mor dda, ond yn bendant mae’r safon wedi bod yn aruthrol.

“Mae pob tîm wedi dangos awydd i chwarae rygbi positif a dydyn nhw ddim wedi chwarae’n geidwadol. Trafod y bêl sydd wedi bod yn bennaf yn eu meddwl nhw, ac mae hynny bendant yn rhywbeth allwn ni edrych arno wrth i’r gêm ddychwelyd i hemisffer y gogledd.

“Y Blues a’r Crusaders yw’r ddau dîm gorau sydd wedi bod yn y gystadleuaeth. Maen nhw’n gallu chwarae rygbi ym mhob ffordd. Maen nhw’n chwarae gêm sy’n seiliedig ar sgiliau, ond mae’r elfennau gosod, fel cael sgrym cryf, yno hefyd. Mae’n ddiweddglo addas iawn i’r gystadleuaeth.”

Tro chwaraewyr Cymru fydd hi i ddychwelyd i’r maes yr wythnos ganlynol, wrth i’r Guinness PRO14 ail-gychwyn. Gyda dau rownd o gemau darbi yn weddill o’r tymor, bydd Scarlets yn herio Gleision Caerdydd ar ddydd Sadwrn 22 Awst, tra bod y Gweilch a’r Dreigiau yn cwrdd yn y Stadiwm Liberty ar ddydd Sul 23 Awst. Bydd modd gwylio pob un o gemau darbi rhanbarthau Cymru yn eu cyfanrwydd, yr un diwrnod, ar S4C.

Ychwanega Gareth: “Roedd Rhys Patchell yn sylwebu gyda fi ar Super Rugby Aotearoa yn ddiweddar, ac mi oedd e’n dweud, yr unig beth nawr yw fod pobl yn gyfarwydd efo’r rygbi yn Seland Newydd ac maen nhw’n mynd i ddisgwyl timau Cymru fynd syth lan i’r safon yna! Yn amlwg, fydden nhw ychydig yn rhydlyd ar ôl cyfnod mor hir heb rygbi.

“Beth sy’n gyffrous am y gemau yma yw bod lot o wynebau newydd yn y rhanbarthau, ac mae’r seibiant wedi rhoi cyfle i sawl chwaraewr wella o anafiadau, felly mae’r carfanau yn llawn chwaraewyr rhyngwladol. Wrth gwrs, rydw i’n edrych ymlaen at gael rygbi yn ôl yma yng Nghymru ac mae’n grêt i ddechrau nôl gyda gemau darbi.”

Author