Home » Cig Coch Cymru yw’r dewis o hyd gan bencampwyr
Cymraeg

Cig Coch Cymru yw’r dewis o hyd gan bencampwyr

BU 350 o gogyddion talentog yn cymryd rhan ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru yn Llandrillo-yn-Rhos y mis hwn.

Er bod llawer o’r prif gogyddion yng nghystadleuaeth rhuban glas Cogydd Cenedlaethol Cymru wedi gwthio’r ffiniau â phrydau arloesol – gan gynnwys bwydlen gwbl-fegan am y tro cyntaf – ansawdd cig coch Cymru fu’r cyfrwng i goroni’r pencampwyr unwaith eto.

Aeth y brif wobr i Tom Westerland, 26 oed, Prif Gogydd Lucknam Park, ger Caerfaddon, am fwydlen a oedd yn cynnwys prif gwrs o Gig Eidion Wagyu Cymreig, winwns wedi eu brwysio mewn cwrw, cêl du, madarch black trumpette, winwns creisionllyd, a lapsang souchong.

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cefnogi Cymdeithas Goginio Cymru a’i chystadlaethau ers tro, ac yn ddieithriad mae’r cystadlaethau’n cynnwys seigiau blasus o Gig Oen Cymru PGI, Cig Eidion Cymru PGI a phorc o Gymru.

“Rydyn ni’n ymfalchïo ein bod yn gweithio gyda chogyddion Cymreig sydd wedi ymrwymo i ddefnyddio ein cynnyrch cenedlaethol eiconig,” meddai Emily Davies, Swyddog Gweithredolg Datblygu Marchnad Prydain yn HCC, a ymunodd â’r Ysgrifennydd Cabinet, Lesley Griffiths a gwesteion eraill yn y seremoni i wobrwyo’r pencampwyr.

“Mae pobl yn bwyta allan mwy a mwy,” ychwanegodd Emily. “Felly, mae’n bwysig i HCC, fel rhan o’i ymgyrch i hyrwyddo cig oen, cig eidion a phorc o ansawdd uchel o Gymru, ymgysylltu â sector enfawr y gwasanaethau bwyd ac â’r cogyddion arloesol sy’n gwneud cymaint i ddylanwadu ar arferion bwyta bob dydd.”

Porc organig o ogledd-ddwyrain Cymru oedd dewis y buddugwr yng nghystadleuaeth Cogydd Iau Cymru, Arron Tye. Roedd y cig hefyd yn ganolog i fwydlen tîm iau Cymru yn ei gystadleuaeth ‘Brwydr am y Ddraig’ yn erbyn Lloegr. Yn ogystal, roedd Cig Oen Cymru yn chwarae rhan flaenllaw ym mhrydau’r cystadleuydd iau, Thomas Martin, a John Quill, a gyrhaeddodd rownd derfynol y cystadleuwyr hŷn.

Mae’r cogyddion yn rowndiau terfynol y Bencampwriaeth Goginio a chogyddion yn nhimau iau a hŷn Cymru yn helpu’n gyson i hyrwyddo cig Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru a digwyddiadau eraill, fel rhan o bartneriaeth barhaus HCC â Chymdeithas Goginio Cymru.

Author

Tags