Home » Côr Coll 1915
Cymraeg

Côr Coll 1915

A NINNAU ar drothwy 2017, pan fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn coffau’r Rhyfel Byd Cyntaf, Hedd Wyn a’r rheiny a gollodd eu bywydau ganrif yn ôl, mae’r trefnwyr wedi lansio apêl i chwilio am deuluoedd aelodau o gôr arbennig a fu’n cystadlu yn yr Eisteddfod dros ganrif yn ôl.

Er mai ail gafodd Côr 17eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig yng nghystadleuaeth y corau meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1915, mae stori’r côr a’r aelodau’n hynod drist. Ddwy flynedd yn ddiweddarach yn Eisteddfod Penbedw, 1917, cynhaliwyd seremoni arbennig i anrhydeddu’r Is-gorporal Samuel Evans.

Yn fuan ar ôl yr Eisteddfod ym Mangor, gadawodd yr 17eg Bataliwn Gymru a glanio yn Ffrainc ym mis Rhagfyr 1915. Ymhen dwy flynedd, mae’n ymddangos bod pob aelod o’r côr wedi’u lladd yn y rhyfel, a dim ond eu harweinydd, yr Is-gorporal Evans, oedd dal yn fyw, ac roedd yntau wedi’i glwyfo. Roedd hyd at bump ar hugain o fechgyn a dynion ifanc yn aelodau o’r côr.

Er i’r stori gael sylw yn y wasg ar y pryd, stori Hedd Wyn, bardd y Gadair, a laddwyd cyn iddo gael ei anrhydeddu gan yr Eisteddfod, sydd fwyaf enwog yn hanes yr Eisteddfod. Cynhaliwyd seremoni’r Gadair Ddu oriau’n unig ar ôl i’r Eisteddfod anrhydeddu’r Is-gorporal Samuel Evans, Rhosllannerchrugog, ar lwyfan y Pafiliwn.

Ganrif yn ddiweddarach, rydym yn awyddus i glywed gan deuluoedd a disgynyddion Côr Meibion yr 17eg Bataliwn. Byddai amryw o’r dynion wedi’u recriwtio yn ardal Blaenau Ffestiniog, Wrecsam a Llandudno, ac rydym yn hyderus bod gan nifer ohonynt deuluoedd sy’n dal i fyw yn lleol ar draws gogledd Cymru.

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am y côr, cysylltwch gyda Gwenllïan Carr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, naill ai drwy ffonio 0845 4090 400, neu drwy e-bostio [email protected].

Author