Home » Covid-19 a newid yn yr hinsawdd
Cymraeg

Covid-19 a newid yn yr hinsawdd

WRTH i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio gam wrth gam, gwelwn y byd o’n cwmpas yn prysuro unwaith eto. Ac er ein bod dal yng nghanol Pandemig sydd wedi cael effaith echrydus, i nifer ohonom mae’r cyfnod wedi cynnig cyfle i arafu ac ail-ymgysylltu gyda byd natur.

Yn y rhaglen Newid Hinsawdd, Newid Byd: Covid-19 ar nos Iau 10 Medi, bydd Steffan Griffiths a Daf Wyn yn edrych ar effaith y Pandemig ar hinsawdd y byd ac yn gofyn ai dyma ein cyfle euraidd i droi’r cloc yn ôl ar y difrod i’n hamgylchedd?

Mae’r pwnc yn agos iawn at galon Steffan, cyflwynydd y tywydd ar S4C, sydd ag MA mewn Rhewlifeg, sef effaith hinsawdd ar rewlifoedd.

“Fel rhywun sydd wedi astudio’r maes ers dros ddegawd, ‘roedd gweld pysgod yn dychwelyd i ddyfroedd clir Venice a golygfeydd tebyg ledled y byd yn bositif iawn. Ac er bod y ffigyrau’n swnio’n drawiadol; lefelau teithio lawr 65% ar draws Ewrop, lefelau llygredd aer wedi disgyn 40%, a CO2 wedi gostwng 17% ym mis Ebrill yn unig, roeddwn i eisiau gwybod mwy am y gwir effaith ar yr amgylchedd a beth yw’r rhagolygon chwe mis yn ddiweddarach.

“I ddod i’r afael a’r sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt, mae Daf a finnau yn siarad gyda Chymry ar wasgar, o Sir Benfro i Ben Llŷn, o Hong Kong i Hanoi, i glywed o lygaid y ffynnon sut mae’n milltir sgwâr wedi newid.”
Gyda llai o deithio a llai o lygredd, mae ansawdd yr awyr wedi gwella yn rhai o ddinasoedd prysuraf y byd. Ond a ydyw’r sefyllfa mor galonogol mewn gwirionedd?

Mae Daf, sydd yn wyneb cyfarwydd o’i waith yn cyflwyno Heno a Prynhawn Da, hefyd yn frwdfrydig am ddarganfod yr ateb; “Yn Newid Hinsawdd, Newid Byd yn 2019, aeth Steff a fi i edrych ar y cysylltiad rhwng tywydd eithafol 2018 a chynhesu byd eang, a gweld fod yr hinsawdd yn newid ar stepen ein drws. Wnetho ‘ni sôn fod y byd ddwy funud i ddeuddeg ar gloc Dydd y Farn, y Doomsday clock. Felly gyda thywydd eithafol yn dal i ddigwydd yng Nghymru a thu hwnt, a 2020 yn flwyddyn wahanol i ddweud y lleiaf, ble y ni nawr?”.

Er bod yr amgylchedd yn sicr wedi elwa o’r cyfnod clo, mae arbenigwyr yn honni mai eiliadau, yn hytrach na munudau, sydd ar ôl ar y cloc dychmygol sy’n mesur y posibiliad o drychineb naturiol wedi greu gan ddynoliaeth. Bydd Steffan a Daf yn holi arbenigwyr o’r maes hinsawdd ac ar gymdeithaseg i gael eu barn nhw.
“Wedi hyn oll fennu, a fyddwn yn mynd nôl i hen arferion ac yn gwneud mwy o niwed i’r blaned nag erioed o’r blaen?” meddai Daf.

Meddai Steffan; “Mae 90% o drychinebau naturiol yr ugain mlynedd diwethaf wedi bod yn gysylltiedig ag argyfwng hinsawdd. Pethau fel corwyntoedd, llifogydd a sychder. Roedd chwe mis cyntaf 2020 y cynhesaf ar record. Felly oes ‘na ddigon yn cael ei wneud ar lawr gwlad? Beth allwn ni ei wneud i sicrhau nad ydym yn disgyn yn ôl?”.

Gyda golygfeydd syfrdanol, a phwnc sy’n berthnasol i bawb, bydd hon yn raglen fydd yn herio’r cydwybod wrth ofyn, a fydd Covid-19 yn gatalydd i droi’r cloc yn ôl ar y difrod i’r amgylchedd, neu yw hi eisoes yn rhy hwyr?

Author