Home » Pantycelyn yn croesawu newydd o fyfyrwyr
Cymraeg

Pantycelyn yn croesawu newydd o fyfyrwyr

MAE neuadd breswyl enwocaf Cymru wedi ailagor ei drysau heddiw, ddydd Gwener 18 Medi 2020, gyda’r myfyrwyr yn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd newydd.
Ar ei newydd wedd mae Neuadd Pantycelyn, sydd wedi ei thrawsnewid gan fuddsoddiad o £16.5m, yn cynnig llety o’r radd flaenaf i hyd at 200 o fyfyrwyr a chartref modern a chyfoes i gymuned fyrlymus myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol.
Mae pob un o’r ystafelloedd gwely wedi ei hadeiladu o’r newydd ac yn cynnwys ystafell ymolchi en-suite, ac mae rhai o ystafelloedd mwyaf adnabyddus y Neuadd – y Lolfa Fawr, y Lolfa Fach a’r Ystafelloedd Cyffredin Hŷn ac Iau wedi eu gweddnewid.
Ac, yn unol â dymuniadau caredigion y neuadd, mi fydd y traddodiad o gydfwyta yn y Neuadd yn parhau gyda brecwast a phryd bwyd â’r hwyr ar gael yn y Ffreutur o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Yn ogystal â buddsoddiad y Brifysgol ei hun, derbyniodd y prosiect gyfraniad o £5m gan raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, a bydd Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams AS, yn ymweld â’r neuadd ddydd Gwener 18 Medi i’w hailagor, ochr yn ochr ag Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Elizabeth Treasure.
Dywedodd Yr Athro Treasure; “Mae hwn yn ddiwrnod mawr i ni yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn benllanw taith bwysig i ni. Wrth ailagor Pantycelyn rydym yn datgan yn glir ein hymroddiad at y Gymraeg a diwylliant Cymru, ac at ddarparu cartref cyfoes a chyffrous i do newydd o fyfyrwyr sydd wedi dewis ymuno gyda ni yma yn Aberystwyth, a phrofi rhagoriaeth academaidd ein Prifysgol, mewn cymuned lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol dydd i ddydd. Mae’n gyfle hefyd i ni gydnabod a diolch i bawb a gyfrannodd at hanes cyfoethog y neuadd unigryw hon, yn fyfyrwyr, yn gyn-fyfyrwyr, yn gyfeillion ac yn aelodau staff, ac sydd wedi chwarae eu rhan wrth wireddu’r freuddwyd o ail-agor Pantycelyn.”
Dywedodd Kirsty Williams: “Mae Neuadd Pantycelyn yn adeilad eiconig o fewn y gymuned Gymraeg ei hiaith ac mae wedi bod yn rhan o wead yr iaith yn lleol ers degawdau, yn ogystal â bod yn bair o dalent i fyfyrwyr sy’n mynd ymlaen i chwarae rhan bwysig yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
“Fel rhan o’n nod i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rydym am ddatblygu addysg ôl-orfodol sy’n cefnogi pobl i ddatblygu sgiliau yn y Gymraeg i’w defnyddio’n gymdeithasol a thrwy gydol eu gyrfaoedd. Mae Pantycelyn, a chymuned ehangach Aberystwyth, yn bwysig wrth feithrin y defnydd o’r Gymraeg ym mhob sefyllfa a chan bawb sy’n medru rhywfaint o’r iaith.
“Rwy’n falch iawn o allu cefnogi adnewyddiad Neuadd Pantycelyn ac edrychaf ymlaen at weld hwn yn gartref i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith am flynyddoedd lawer i ddod.”
Gydag ailagor y Neuadd, mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn dychwelyd i’r neuadd gan ymgartrefu mewn swyddfa newydd sbon lle bydd cymorth a chyngor i fyfyrwyr ar gael, a rhaglen lawn o weithgareddau yn cael ei tnu.
Dywedodd Moc Lewis, Llywydd UMCA: “Mae ail agor Pantycelyn yn gam pwysig iawn i bawb yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’r cyfleusterau yn y neuadd newydd yn wych. Fel llais y myfyrwyr, mae’n bwysig i ni fod swyddfa UMCA yma yn y Neuadd fel ein bod yn rhan o’i bywyd dyddiol ac yn cefnogi’r gymuned bwysig hon. Rydym yn ymwybodol iawn o gyfraniad anhygoel y Neuadd dros y degawdau; ein tro ni yw hi nawr i lunio’r bennod nesaf, ac mae heddiw yn ddechrau cyffrous i’r bennod honno yn hanes Pantycelyn.”
Agorwyd Pantycelyn am y tro cyntaf yn 1951 fel neuadd i fechgyn a daeth yn Neuadd Gymraeg ym 1974.
Ar hyd y blynyddoedd profodd cymuned Pantycelyn yn feithrinfa greadigol lenyddol a cherddorol heb ei hail, gyda llu o awduron a beirdd llwyddiannus ymhlith ei chyn breswylwyr, yn ogystal â bandiau sydd wedi gwneud eu marc ar y byd roc a phop Cymraeg.
Fe fu’r neuadd yn gartref i’r hanesydd blaenllaw ac awdur Hanes Cymru, y diweddar Dr John Davies Bwlchllan, a fu’n warden yno rhwng 1974 a 1992.

Author