Home » Cymry’n poeni am diffyg lle parcio
Cymraeg

Cymry’n poeni am diffyg lle parcio

Screen Shot 2016-02-02 at 15.10.14
Parcio ceir: Anhrefn

MAE’R CYMRY ymhlith y bobol sy’n poeni fwyaf am lefydd parcio yn y Deyrnas Unedig, yn ôl gwaith ymchwil a gafodd ei gomisiynu gan yr AA. 

Yn ôl yr astudiaeth, mae prinder llefydd parcio preswyl wedi mynd mor wael nes bod tua 12% o yrwyr yn osgoi teithio yn eu ceir, am eu bod yn ofni colli eu lle.

Dywed 19% o yrwyr yn dweud eu bod “o hyd yn poeni” am allu dod o hyd i le parcio wrth iddyn nhw gyrraedd eu cartrefi.

Mae’r gyfran hon bron mor uchel â’r hyn yw yn ne-ddwyrain Lloegr, a dim ond yn Llundain y cafwyd cyfran sylweddol uwch.

Dywedodd llywydd yr AA, Edmund King, fod prisiau cynyddol tai yn rhan o’r broblem, gan fod cymaint o bobol yn byw yn bell o’u gwaith, sy’n golygu eu bod yn gorfod teithio mewn car.

Mewn ardaloedd â phoblogaeth niferus, mae sawl tŷ wedi cael ei droi’n fflatiau, sy’n arwain at fwy o geir yn parcio yn yr un ardal.

Yn ôl yr AA, gallai’r broblem gael ei datrys pe bai awdurdodau lleol yn ailedrych eu cyfyngiadau ar barcio mewn ardaloedd preswyl.

Mewn astudiaeth o’r blaen gan y gymdeithas foduro, roedd 47% o fodurwyr yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobol sy’n parcio ar balmentydd, tra bod 12% wedi gweld hyn yn arwain at ddadleuon rhwng cymdogion.

Author