Home » Cynulliad cryf ac amrywiol
Cymraeg

Cynulliad cryf ac amrywiol

MAE’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad wedi cyhoeddi rhaglen gynhwysfawr o waith i ddatblygu cynllun ar gyfer cyflwyno newidiadau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rôl y Pwyllgor yw archwilio’r diwygiadau a argymhellwyd gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn 2017 i sicrhau bod y Cynulliad yn senedd sy’n gweithio i Gymru. Daeth y Panel i’r casgliad y dylid cael mwy o Aelodau, ac argymhellodd newidiadau i’r ffordd y cânt eu hethol, gan gynnwys mesurau i sicrhau mwy o amrywiaeth.

Bydd gwaith y Pwyllgor yn cynnwys casglu tystiolaeth helaeth drwy ddefnyddio dulliau gwahanol o ymgysylltu, gan ddechrau gydag agor yr ymgynghoriad cyntaf heddiw. Yn yr ymgynghoriad yma, mi fydd y Pwyllgor yn gofyn am farn rhanddeiliaid a’r gymuned etholiadol ar oblygiadau unrhyw newidiadau i’r ffordd y mae Aelodau’n cael eu hethol, yr ardaloedd y maent yn eu cynrychioli, a’r mecanwaith ar gyfer adolygu ffiniau etholiadol.

Nod y pwyllgor yw cyflwyno adroddiad yn haf 2020 gan wneud argymhellion, yn seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn amlinellu cynllun ar gyfer diwygio ac a fydd yn helpu pleidiau gwleidyddol wrth iddynt ystyried eu safbwyntiau a’u maniffestos cyn etholiad y Cynulliad yn 2021, ac sy’n cynyddu’r tebygolrwydd y bydd consensws yn dod i’r amlwg yn gynnar yn nhymor y Cynulliad nesaf ar ddiwygiadau y gellir eu gweithredu erbyn 2026.

Wrth annerch y Cynulliad yn y Siambr heddiw, Ionawr 8, fe wnaeth y Cadeirydd Dawn Bowden AC egluro nod y Pwyllgor, gan bwysleisio y byddan nhw’n sicrhau y gall pobl gyfrannu a rhannu eu barn. Bydd y Pwyllgor hefyd yn gweithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn clywed lleisiau pobl ifanc sydd wedi’u magu gyda datganoli – yn enwedig y rhai a fydd yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad cyffredinol Cymru 2021.

Dywedodd Dawn Bowden AC, Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad: “Gellir ystyried argymhellion y Panel Arbenigol – gan gynnwys diwygio maint y Cynulliad, ei amrywiaeth, sut y mae Aelodau’n cael eu hethol, a’r ardaloedd rydyn ni’n eu cynrychioli – yn faterion cymhleth a thechnegol. Ond er mwyn i’r Cynulliad dyfu a datblygu fel senedd sydd â’r adnoddau a’r amrywiaeth llais a barn sydd eu hangen arno yn y dyfodol, mae’n hanfodol ein bod yn cynnal trafodaeth gyhoeddus, gytbwys ac yn darparu rôl ganolog i ddinasyddion yn y broses, yn ogystal â rhanddeiliaid ac Aelodau’r Cynulliad o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol.

“Er mwyn cyflawni hyn, byddwn ni, fel y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, yn eangfrydig ac yn cadw meddwl agored. Byddwn ni’n darparu gwybodaeth gywir a hygyrch, yn gofyn am dystiolaeth ac yn casglu safbwyntiau. Byddwn ni’n defnyddio ystod eang o ddulliau i gasglu tystiolaeth ac yn gwrando’n ofalus ar safbwyntiau pobl drwy ymgynghori ac ymgysylltu â’r cyhoedd.

“Does dim angen i ni fynd dros y materion sydd eisoes wedi’u trafod. Felly mi fydd ein gwaith ni yn cydgrynhoi ac yn ychwanegu at y dystiolaeth bresennol, gan ddefnyddio gwaith y Panel Arbenigol fel ein man cychwyn.

“Rwy’n credu y bydd y sgyrsiau rydyn ni’n eu cael, ac unrhyw argymhellion rydyn ni’n eu gwneud, yn fwyaf effeithiol os ydyn nhw’n sail i weledigaeth hirdymor ar gyfer y Senedd, ac wedi’u gwreiddio mewn sylfaen eang o gefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus.”

Author