MAE’r wyddoniaeth yn glir: oherwydd y newid yn yr hinsawdd sydd wedi’i achosi gan allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac oherwydd dinistrio cynefinoedd ac ecosystemau dros y byd, mae argyfwng difrifol yn ein hwynebu. Mae hyn wedi’i ddatgan yn swyddogol gan lywodraethau Cymru a’r DU, yn ogystal â gan y Cenhedloedd Unedig, NASA, a 97% o wyddonwyr hinsawdd y byd. Mae mudiadau dros y byd, a phobl ifanc dros y byd, yn ceisio gwthio eu llywodraethau i ymateb i’r argyfwng mewn ffordd ddigonol ac effeithiol. Gwrthryfel Difodiant / Extinction Rebellion (XR) yw’r un sy wedi hawlio’r penawdau fwyaf efallai.
Bydd cyflwyniad i Argyfwng yr Hinsawdd, ac ymateb Gwrthryfel Difodiant iddo, yn Neuadd Goffa Pontgarreg, SA44 6AJ, nos Wener, 10 Ionawr 2020 am 7yh. Bydd y cyflwyniad trwy gyfrwng y Gymraeg. Cewch ragor o wybodaeth trwy e-bostio [email protected], neu trwy ymweld â thudalen Facebook “XR Cymraeg”.
Croeso cynnes i bawb, mynediad am ddim.