Home » Cytundeb Partneriaeth ffurfiol newydd rhwng S4C a’r BBC
Cymraeg

Cytundeb Partneriaeth ffurfiol newydd rhwng S4C a’r BBC

MAE AWDURDOD S4C a Bwrdd Unedol y BBC heddiw’n cyhoeddi’r cytundeb newydd fydd yn cymryd lle’r Cytundeb Gweithredu a fu’n sail i’r berthynas rhwng Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC rhwng 2013 a diwedd Mawrth 2017.

Yn y Cytundeb Partneriaeth, Ariannu ac Atebolrwydd newydd yma, mae’r ddau ddarlledwr yn ymrwymo i weithio gyda’i gilydd yn greadigol er budd gwylwyr a’r gynulleidfa Gymraeg.

Mae ymrwymiad y BBC i ddatblygu a sefydlu partneriaethau adeiladol a theg yn un o hanfodion y Siarter newydd. Mae’r ymrwymiad i ddarparu cyllid i S4C yn rhan o’r Cytundeb Fframwaith a gyhoeddwyd yr un pryd. Gwelir y cytundeb hwn felly fel un o bartneriaethau craidd y BBC, yn unol â gofynion y Siarter.

Mae’r Cytundeb Partneriaeth yma yn seiliedig ar, ac yn diffinio, tair elfen sylfaenol:

  1. Y cyllid y bydd S4C yn ei dderbyn o ffi’r drwydded deledu, a natur yr atebolrwydd ariannol amdano i’r BBC;
  2. Y cyfraniad rhaglenni statudol gan y BBC o 10 awr yr wythnos o raglenni i S4C; a
  3. Natur y bartneriaeth ymarferol ehangach a fydd yn cynnwys y ddarpariaeth o wasanaethau technegol gan y BBC i S4C.

Bydd y Cytundeb Partneriaeth yn dal mewn grym hyd ddiwedd cyfnod Siarter newydd y BBC, sef hyd at 2028.

Mae cytundeb eisoes y bydd cyllid S4C o’r ffi drwydded yn parhau yn sefydlog tan 2022, pan fydd lefel y drwydded deledu’n cael ei adolygu.

Bydd gwerth y cyfraniad rhaglenni statudol yn cael ei gynnal ar y lefel bresennol, sef £19.4m y flwyddyn, hyd at yr un dyddiad.

Mae’r Cytundeb hefyd yn gwarantu parhad y trefniant i gynnal lle S4C ar yr iPlayer tan 2028.

Mae telerau’r cytundeb i ddarparu gwasanaethau technegol i S4C yng nghanolfan newydd y BBC yng nghanol Caerdydd o 2019 ymlaen yn awr wedi cael eu cytuno.

Mae’r Cytundeb Partneriaeth hwn yn rhoi manylion ynglŷn â sut y disgwylir i’r berthynas rhwng y ddau gorff gael ei gweithredu er mwyn sicrhau partneriaeth adeiladol, yng Nghymru ac ar y lefel y Deyrnas Gyfunol, a pha brosesau arolygu fydd yn cael eu darparu.

online casinos UK

Dywedodd Cadeirydd S4C, Huw Jones: “Mae’r cytundeb newydd yma’n dangos yn glir beth fydd natur y berthynas rhwng S4C a’r BBC dros gyfnod y Siarter newydd. Mae’n rhoi elfen gref o sicrwydd a sefydlogrwydd i S4C dros y cyfnod hwn, wrth ganiatáu cyfle i adolygu’r elfennau craidd ar ôl 5 mlynedd, ac mae’n gosod her i’r ddau sefydliad adnabod cyfleoedd i gydweithio’n adeiladol er budd y gwylwyr.

“Mae’n adeiladu ar lwyddiant y Cytundeb Gweithredu diwethaf ac ar draddodiad hir o gydweithio a chyd-wasanaethu cynulleidfaoedd. Mae unwaith eto yn cadarnhau annibyniaeth S4C fel corff ac fel gwasanaeth.”

Rwy’n falch dros ben fod y BBC wedi gweld yn dda i adnabod ei pherthynas gydag S4C fel un o’i phartneriaethau craidd o dan y Siarter.

Dywedodd Sir David Clementi, Cadeirydd y BBC: “Mae’r cytundeb newydd hwn yn cryfhau’r bartneriaeth gwasanaeth darlledu cyhoeddus hirdymor sy’n bodoli eisoes rhwng y BBC ac S4C. Mae’n cydnabod rôl hanfodol y ddau sefydliad o ran darlledu Cymraeg – ac mae’n rhoi sylfaen gadarn ar gyfer cydweithio parhaus ar adeg pan fo newidiadau sylweddol ar droed yn y cyfryngau.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous ar gyfer darlledu yng Nghymru, ac rydw i’n hyderus y bydd parhau i weithio’n agos gydag S4C yn arwain at ganlyniadau creadigol, gan ddatblygu llawer o’r llwyddiannau a gyflawnwyd ar y cyd yn y blynyddoedd diwethaf.”

Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r Cytundeb rhwng y BBC ac S4C.

Meddai Ruth Richards, prif weithredwr Dyfodol i’r Iaith: ‘Bydd y Cytundeb yn rhoi sefydlogrwydd ariannol i S4C am y deng mlynedd nesaf. Rydyn ni’n awr yn edrych ymlaen at weld y Sianel yn rhoi ei sylw i ddatblygu’r defnydd o’r datblygiadau technolegol newydd. Serch hynny, rydym am weld cynnydd yn yr arian ag gaiff S4C, o leiaf yn cydredeg â chwyddiant. Rydym hefyd am wybod beth yw’r oblygiadau i arolwg Euryn Ogwen Williams o S4C.”

“Mae Dyfodol i’r Iaith wedi cytuno bod angen ateb ariannol pragmataidd nes y bydd Llywodraeth Cymru’n gallu datblygu cyfrifoldeb am ddarlledu yng Nghymru. Mae’r cytundeb hwn i’w groesawu fel rhan o raglen gynhwysfawr o hyrwyddo’r iaith.”

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhybuddio bod cytundeb newydd rhwng S4C a’r BBC yn gam arall yn y broses o’r BBC yn traflyncu’r sianel.

Honna’r mudiad fod y cytundeb yn golygu y bydd gan y BBC ddylanwad mawr ar faterion golygyddol a gweinyddol S4C. Dywed y cytundeb: “Dylai’r bartneriaeth gynnwys, lle y bo’n briodol, cydweithredu ym meysydd technoleg; mynediad i’r iPlayer; datblygu prosiectau creadigol; materion golygyddol; hyrwyddo gwasanaethau’r BBC ac S4C; ac effeithlonrwydd gweithredol.”

Hefyd, mae’r mudiad yn pryderu bod y cytundeb yn rhoi grym a dylanwad dros waith darparu gwasanaethau S4C gyda manylion mewn cytundeb arall sydd heb ei gyhoeddi: “Mae S4C a’r BBC yn bwriadu cydleoli a rhannu gwasanaethau technegol ar gyfer darlledu a darparu Gwasanaethau S4C a gwasanaethau’r BBC yng Nghymru, yng nghanolfan ddarlledu newydd y BBC yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd.”

Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “O dan y cynlluniau yn y cytundeb hwn, mae dros hanner staff S4C yn mynd i fod yn gweithio o swyddfa’r BBC yng Nghaerdydd, bydd y BBC yn darlledu signal teledu S4C, mae rhaglenni S4C ar yr I-player, ac mae’r gorfforaeth wedi dwyn allbwn drama S4C. Ble mae diwedd y daith? Gyda’r BBC yn rheoli pob dim os nad oes rhywbeth radical yn digwydd.

“Mae S4C i fod i symud i Gaerfyrddin, dylid gwneud hynny’n gyfan gwbl. Dylid canslo’r cytundeb ‘partneriaeth’ bondigrybwyll hwn a’r cyd-leoli yng Nghaerdydd yn syth, dyna un ffordd o geisio atal y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig rhag cael rheolaeth lwyr dros ein hunig sianel deledu Gymraeg.”

Ychwanegodd: “Os yw cymaint o fanylion â hyn eisoes wedi eu pennu yn y cytundeb hwn, beth yw diben adolygiad Llywodraeth Prydain o’r sianel? Mae’r amseriad yn edrych yn tanseilio’r adolygiad. Yr unig ateb i hyn yn y pendraw yw datganoli darlledu i Gymru: dylai penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru. “

Author

Tags