Home » Dathlu 25 mlynedd o Fenter Cwm Gwendraeth
Cymraeg

Dathlu 25 mlynedd o Fenter Cwm Gwendraeth

Gwersi Crosio cyfrwng Cymraeg yn Y Cwtsh ym Mhontyberem
Gwersi Crosio cyfrwng Cymraeg yn Y Cwtsh ym Mhontyberem
Gwersi Crosio cyfrwng Cymraeg yn Y Cwtsh ym Mhontyberem

MAE HI’N gwarter canrif ers i hedyn bach a blannwyd yng Nghwm Gwendraeth yn 1991 arwain at bum mlynedd ar hugain o weithgarwch cymunedol sydd wedi hybu, hyrwyddo a chynnig amryw o gyfleoedd gweithredol i drigolion Cwm Gwendraeth ac yn fwy diweddar, Llanelli i weithio a chymdeithasu yn yr iaith Gymraeg.

Sefydlwyd Menter Cwm Gwendraeth – y Fenter Iaith gyntaf o’i fath yng Nghymru ym mis Ionawr 1991, fel cynllun peilot 3 blynedd gyda 2 aelod o staff yn unig, er mwyn parhau i gynnig gweithgarwch cyfrwng Cymraeg i ardal Cwm Gwendraeth yn dilyn Eisteddfod 1989.

25 mlynedd yn ddiweddarach, gyda’i henw newydd Menter Cwm Gwendraeth Elli, mae dros 90 aelod o staff yn amrywio o staff parhaol, llawn amser i staff achlysurol yn gweithio iddi, mwy na 40,000 o bobl wedi mynychu digwyddiadau teuluol a dros 500 o ddigwyddiadau cymunedol cyfrwng Cymraeg wedi eu cynnal yng nghymunedau Cwm Gwendraeth a Llanelli.

Mae cyfnod cyffrous newydd yn dechrau i Fenter Cwm Gwendraeth Elli wrth iddi ddechrau ar ei thaith i’w hanner canrif. Bydd yn ehangu ei gorwelion ac yn edrych tuag at y dyfodol gyda rhaglen gyffrous a chynhwysfawr i nodi’r penblwydd arbennig yma.

Mae Pwyllgor wedi ei phenodi i drefnu ystod eang o ddigwyddiadau ar draws y flwyddyn i ddynodi’r garreg filltir bwysig yma yn hanes y Fenter a chynnal rhaglen o weithgareddau cymunedol amrywiol i wasanaethu grwpiau, trigolion a busnesau ein cymuned – eu hysbrydoli a’u galluogi rhoi’r iaith fel canolbwynt i’w bywyd bob dydd a’u bywyd gwaith.

Meddai Nerys Burton, Prif Weithredwr Menter Cwm Gwendraeth Elli “eleni ar adeg ein penblwydd yn 25 byddwn yn eghanu ein gorwelion ac yn edrych tuag at y dyfodol at gyfnod cyffrous newydd yn hanes menter iaith gyntaf Cymru.”

Byddwn yn cyd-weithio â’n partneriaid i sicrhau ein bod yn cynnig gweithgareddau ar gyfer pawb yn ein cymunedau er mwyn dathlu, diolch a sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn treiddio i fannau nad yw wedi cyrraedd gynt. Ac fel y gwnaethpwyd 25 mlynedd yn ôl sicrhau ein bod ni’n torri tir newydd ac yn mynd o nerth i nerth dros y chwarter canrif nesaf.

Y mwyaf o bobl sydd yn mynychu’r mwyaf yw’r parti ac mae gwahoddiad i chi i gyd i ymuno â ni yn ein dathliadau! Bydd rhaglen lawn o weithgareddau yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf ond os hoffech wybod mwy am ein cynlluniau neu fod yn rhan o’n dathliadau mewn unrhyw ffordd mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01269 871600.

Author