Home » Defnydd o’r Gymraeg yn y Cynulliad ‘wedi gostwng’
Cymraeg

Defnydd o’r Gymraeg yn y Cynulliad ‘wedi gostwng’

Defnydd iaith yn disgyn yn y Siambr: Cymdeithas
Defnydd iaith yn disgyn yn y Siambr: Cymdeithas
Defnydd iaith yn disgyn yn y Siambr: Cymdeithas

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Aelodau Cynulliad i wneud adduned blwyddyn newydd i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y Cynulliad, yn dilyn cyhoeddi ffigurau “siomedig” sy’n dangos bod defnydd o’r iaith yn y Siambr wedi gostwng yn 2015.

Mae ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith yn dangos mai 11.8% yn unig o’r cyfraniadau yn y Siambr gafodd eu gwneud yn Gymraeg yn 2015, o gymharu â 12.7% yn 2014.

Yr ACau a oedd wedi defnyddio’r Gymraeg fwyaf o bob plaid (fel canran o’u holl gyfraniadau) oedd Dafydd Elis-Thomas, Plaid Cymru (95%); Keith Davies, y Blaid Lafur (66%); Aled Roberts, y Democratiaid Rhyddfrydol (55%); a Paul Davies, y Ceidwadwyr (22%).

Meddai Manon Elin, cadeirydd Grŵp Hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:“Mae’r pedair plaid yn y Cynulliad wedi nodi eu dymuniad i weld y Gymraeg yn ffynnu, ond nid yw defnydd Aelodau Cynulliad o’r Gymraeg yn y Siambr yn adlewyrchu’r uchelgais honno.

“Mae’n arbennig o siomedig fod gostyngiad wedi bod yn 2015. Rydyn ni’n galw felly ar bob un Aelod Cynulliad i wneud adduned blwyddyn newydd i ddefnyddio llawer mwy o’r Gymraeg yn y Siambr y flwyddyn nesaf.

“Mae’n hollbwysig fod lle blaenllaw i’r Gymraeg ym mywyd cyhoeddus Cymru. Bydd etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai, felly bydd 2016 yn flwyddyn bwysig. Mae’n debygol na fydd rhai o’r Aelodau sy’n gwneud defnydd helaeth o’r Gymraeg yn Aelodau Cynulliad ar ôl mis Mai, felly rydym yn pryderu y gallai’r defnydd o’r Gymraeg leihau ymhellach.”

Ychwanegodd Manon Elin: “Rydyn ni’n galw nid yn unig ar yr Aelodau Cynulliad presennol, ond hefyd ar ymgeiswyr o bob plaid i ymrwymo cyn yr etholiad i ddefnyddio’r Gymraeg yn y Siambr os cânt eu hethol.

“Nid oes rheswm pam na all yr Aelodau rhugl ddefnyddio’r iaith yn y Siambr, gan fod cyfieithwyr yn bresennol ym mhob cyfarfod. Mae sawl Aelod Cynulliad hefyd wrthi’n dysgu’r Gymraeg, rhywbeth sydd i’w groesawu, felly mae’n bwysig fod Comisiwn y Cynulliad yn cefnogi’r Aelodau hynny i ddefnyddio’r Gymraeg fwyfwy wrth eu gwaith bob dydd. Beth bynnag eu lefel, gallai pob un AC siarad rhagor o Gymraeg yn y Siambr.”

Author