Home » Dewch i ddathlu penwythnos Dydd Gŵyl Dewi
Cymraeg

Dewch i ddathlu penwythnos Dydd Gŵyl Dewi

OS YDYCH chi’n chwilio am ffordd arbennig o ymuno â’r dathliadau Dydd Gŵyl Dewi eleni, dewch i Orymdaith flynyddol y Ddraig yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc ddydd Sadwrn 3 Mawrth.

Bydd strydoedd y ddinas leiaf ym Mhrydain yn llawn pobl sydd wedi dod i fwynhau gweld plant ysgol, grwpiau o sgowtiaid ac aelodau o Grŵp Gofal Preswyl yn gorymdeithio’n falch drwy ganol y ddinas gyda’u crefftau a’u baneri, i gyfeiliant Band Sgwadron 948 y Corfflu Hyfforddiant Awyr.

Dywedodd Rheolwr Oriel y Parc, Jenn Jones: “Mae Gorymdaith y Ddraig yn ddathliad gwych o ddiwylliant Cymru ac rydym yn falch bod y digwyddiad yn parhau i gael cymaint o gefnogaeth gan ysgolion a phobl leol.

“A Chymru’n dathlu Blwyddyn y Môr yn 2018, dyma’r amser delfrydol i ymweld â’r penrhyn trawiadol hwn ac i ymuno â’r dathliadau Gŵyl Dewi wrth i ni nodi dyddiad geni nawddsant Cymru yn y lle y cafodd ei eni.”

Bydd Gorymdaith y Ddraig yn gadael cwrt Oriel y Parc am 11am ac yn mynd i’r Stryd Fawr cyn teithio o gwmpas Sgwâr y Groes.

Wedyn bydd yr orymdaith yn dychwelyd i Oriel y Parc, lle gallwch gael gwybodaeth am sut mae mwynhau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gweld amrywiaeth o arddangosfeydd a chadw’n gynnes gyda diodydd poeth neu bowlen o gawl yn y caffi.

Os hoffech chi gymryd rhan yng Ngorymdaith y Ddraig, cysylltwch â Katie Withington drwy anfon e-bost at [email protected] neu ffonio 01437 720392.

Ceir hefyd amserlen brysur o weithgareddau a digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi a fydd yn cael eu cynnal yn Nhyddewi a’r ardal gyfagos gydol yr wythnos yn arwain at yr orymdaith ar 3 Mawrth. I gael manylion llawn, ewch i www.stdavids.gov.uk.

Author

Tags