Home » Dewch i fwynhau mis Ionawr am ddim!
Cymraeg

Dewch i fwynhau mis Ionawr am ddim!

Yr Ardd: Mwynhewch am ddim!
Yr Ardd: Mwynhewch am ddim!
Yr Ardd: Mwynhewch am ddim!

Mae mynediad i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru AM DDIM ym mis Ionawr felly pam na wnewch chi fwynhau ymweliad gaeafol? Mae yna gymaint o dan do, bu hi’n ddiwrnod allan arbennig beth bynnag yw’r tywydd. Ond am ein penwythnosau ‘digwyddiadau’ (pan fydd tâl mynediad o £3), mae’n rhad ac am ddim i ymweld trwy gydol y mis. Rydym ar agor o 10yb-4:30yp – gan gynnwys Dydd Calan! Mae’r penwythnosau arbennig yn dechrau ar Ionawr 9-10 efo’n Penwythnos Henebion poblogaidd, sydd wedi ei drefnu gan Derwen Fairs. Uchafbwyntiau’r digwyddiad yma bydd crochenwaith a chelf Gymreig, gemwaith o ansawdd a chelfi derwen Gymreig o’r 17eg ganrif.

Mae’n Benwythnos Crefft Bren ar Ionawr 16-17 pan fydd ein turnwyr pren, cerfwyr llwyau caru, gwneuthurwyr ffyn, cyflenwyr offer pŵer ac arbenigwyr pyrograffeg yn ymgynnull yn yr Ardd. Penwythnos y 23ain a’r 24ain o Ionawr fydd ein Ffair Fwyd pryd bydd llu o gynhyrchwyr o fwydydd a diodydd lleol yn ymgynnull yn amgylchyniad syfrdanol Tŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Foster i gynnig danteithion blasus, lleol i’w blasu a phrynu. Bydd Penwythnos yr Eirlys, ar Ionawr 30-31, yn ddathliad o hoff flodyn y gaeaf i bawb. Mi fydd ddigon i ddal sylw casglwyr yr eirlys ac i’r gwyliwr achlysurol ymhlith y teithiau arbenigol, sgyrsiau arbennig a gweithgareddau hwyl i’r teulu. Mae yna barcio am ddim digonol i’r Ardd.

Author