Home » Dogfen S4C yn rhoi mynediad ecsgliwsif i’r Super Furry Animals
Cymraeg

Dogfen S4C yn rhoi mynediad ecsgliwsif i’r Super Furry Animals

Byddant yn dychwelyd!: Super Furry Animals aduno.

BYDD rhaglen ddogfen S4C yn rhoi mynediad ecsgliwsif gefn llwyfan gyda’r Super Furry Animals wrth iddyn nhw baratoi i berfformio’r daith gyntaf gyda’i gilydd ers 2009.

Daeth cyhoeddiad mawr y band ar ddydd Gwener Chwefror 27, wrth iddyn nhw ddatgelu manylion am daith bum gig ddechrau mis Mai 2015, a’r bwriad i ail ryddhau’r albwm Mwng ynghyd â llyfr a’r rhaglen ddogfen ar S4C.

Mae’r daith yn nodi ugain mlynedd ers i’r SFA arwyddo cytundeb gyda Creation Records, y cwmni recordiau wnaeth ddod ag enwogrwydd rhyngwladol i’r band.

Bydd rhaglen ddogfen S4C yn rhoi darlun o yrfa’r band o’r dechrau, ac yn cael ei dangos ar y sianel cyn y gig gyntaf ym mis Mai. Bydd yn gyfuniad o gyfweliadau ecsgliwsif, lluniau archif, perfformiadau byw, fideos, atgofion a chyfraniadau unigryw a chreadigol gan aelodau’r band.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C: “Doedd dim amheuaeth gen i y byddai’r cyhoeddiad yma gan y grŵp yn destun cynnwrf ymhlith eu dilynwyr ar draws y byd. Wedi dros bum mlynedd o seibiant, bydd un o fandiau mwyaf Cymru yn gweithio gyda’i gilydd eto, ac mae S4C yn falch iawn o allu cynnig cyfle i’r ffans ymuno â’r band ar y daith honno yn y ddogfen ecsgliwsif ar S4C.”

Author