Home » Dros £4m i hybu’r Gymraeg
Cymraeg

Dros £4m i hybu’r Gymraeg

Carwyn Jones: ‘Hoffem sicrhau dyfodol cadarn ar gyfer y Gymraeg’
Carwyn Jones: ‘Hoffem sicrhau dyfodol cadarn ar gyfer y Gymraeg’
Carwyn Jones: ‘Hoffem sicrhau dyfodol cadarn ar gyfer y Gymraeg’

MAE PRIF WEINIDOG Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi heddiw enwau’r 76 o sefydliadau a fydd yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn ystod 2016-17. Mae Urdd Gobaith Cymru, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Merched y Wawr a Mudiad y Ffermwyr Ifanc ymysg y sefydliadau a fydd yn elwa ar y cyllid hwn. Bydd y cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cefnogi’r rhwydwaith o ‘bapurau bro’ a ‘Mentrau Iaith’ ar draws Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Bydd y pecyn hwn o gymorth yn galluogi’r sefydliadau hyn – y mae sawl un yn rhan annatod o hunaniaeth a diwylliant Cymru – i barhau â’u rôl flaengar ym maes hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ar lawr gwlad. “Hoffem sicrhau dyfodol cadarn ar gyfer y Gymraeg ac rydym yn gwybod bod llawer iawn o unigolion, grwpiau a sefydliadau ar draws Cymru eisoes yn cyflawni gwaith rhagorol yn y maes hwn. Bydd y £4 miliwn yn sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu ar y llwyddiannau hyn a’u hategu, gan greu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg newydd a phrofiadol ddefnyddio’r iaith, rhannu eu profiadau a mwynhau eu hunain drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y flwyddyn sydd i ddod ac am flynyddoedd eto.”

Author