Home » Edrych ymlaen at y 6 Gwlad RBS ar S4C
Cymraeg

Edrych ymlaen at y 6 Gwlad RBS ar S4C

AR DROTHWY blwyddyn taith y Llewod i Seland Newydd, mae mwy o gyffro nag arfer wrth edrych ymlaen at y 6 Gwlad RBS eleni, yn ôl sylwebydd Clwb Rygbi Rhyngwladol, Gareth Charles.

S4C yw’r unig ddarlledwr i ddangos pob un o gemau Cymru yn y 6 Gwlad RBS eleni, ac mae’r sylwebydd profiadol yn rhan annatod o’r tîm cyflwyno. Bydd Gareth, sy’n hanu o Bont-henri yng Nghwm Gwendraeth, yn cael cwmni’r cyn-gapten Gwyn Jones yn y blwch sylwebu tra bydd y cyn-chwaraewyr rhyngwladol Shane Williams, Andrew Coombs, Dafydd Jones, Nicky Robinson a Deiniol Jones yn ymuno â’r cyflwynydd Gareth Rhys Owen yn ystod y Bencampwriaeth.

Bydd S4C hefyd yn dangos dwy o gemau tîm Cymru Dan 20 yn fyw, yn ogystal â gêm tîm y

merched yn erbyn Iwerddon. Bydd uchafbwyntiau gemau’r merched hefyd i’w gweld ar Clwb2, sy’n cael ei darlledu bob nos Sul.

Gyda’r 6 Gwlad yn agosáu, cawsom sgwrs gyda Gareth i glywed pwy a beth fydd yn debygol o greu argraff yn y gystadleuaeth.

Gyda Warren Gatland i ffwrdd efo’r Llewod, Rob Howley yn cymryd ei le ac Alun-Wyn Jones yn cymryd lle Sam Warburton fel capten – mae’n gyfnod o newid i dîm Cymru. Wyt ti’n rhagweld Pencampwriaeth anodd i Gymru?

Mae ‘na lot fawr o bwysau ar Gymru a Rob Howley i newid eu steil nhw a chwarae mwy o rygbi agored. Gan ein bod ni’n chwarae yn erbyn Yr Eidal yn y gêm gyntaf a gan fod pwyntiau bonws ar gael am y tro cyntaf eleni, mae ‘na bwysau ar y garfan i ddechrau’n dda – er ein bod ni fel arfer yn cael dechrau gwael i bob cystadleuaeth.

Pwy yw’r ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth eleni?

‘Swn i’n dweud Lloegr. Mae’r gwelliant maen nhw ‘di ‘neud o dan Eddie Jones yn rhyfeddol. Maen nhw’n chwarae rygbi da ac mae dyfnder gwirioneddol gyda nhw. Ond mae Iwerddon yn dynn ar eu sodlau ac ar ôl eu buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Seland Newydd yn ystod yr hydref, maen nhw’n fygythiad i Loegr.

Pa chwaraewyr fyddi di’n edrych ymlaen at eu gweld eleni?

online casinos UK

I Gymru, yn amlwg, mae Taulupe Faletau ar ei ddydd yn un o’r goreuon yn y byd. Mae gan Loegr Maro Itoje yn yr ail-reng, a hefyd y canolwr Jonathan Joseph, sydd yn rhywun sydd wastad yn creu problemau i Gymru. Mae Tommy Seymour a Stuart Hogg yn gallu creu argraff i’r Alban. Mae hi’n flwyddyn y Llewod, felly dwi’n credu y bydd hynny’n codi’r safon drwyddi draw.

Efo’r holl ffactorau newydd – y Llewod a’r pwyntiau bonws – faint wyt ti’n edrych ymlaen at y gystadleuaeth eleni?

Eleni dwi’n edrych ymlaen yn fwy nag arfer. Rwyi’n edrych ymlaen at gystadleuaeth y merched hefyd i weld sut maen nhw’n gwneud yn eu cartref newydd ym Mharc yr Arfau a bydda i’n sylwebu ar eu gêm yn erbyn Iwerddon. Bydda i’n sylwebu ar un o gemau’r tîm Dan 20 hefyd ac mae ‘na wastad awyrgylch gwych lan ym Mharc Eirias ar gyfer y gemau yna. Mae’n bleser dilyn tîm y dynion i Rufain a Pharis hefyd, mae’n rhaid dweud.

Pa atgofion 6 Gwlad (neu 5 Wlad) sy’n sefyll allan fwyaf i chdi?

Yr un amlwg yw’r gêm lle sgoriodd Scott Gibbs y cais bythgofiadwy yna yn y gêm yn Wembley – bydd hwnna ‘da fi am byth. Y gêm hefyd lle rhoddon ni 30 o bwyntiau ar Loegr yng Nghaerdydd yn 2013, roedd hynny’n gêm ffantastig. Felly, mae’n debyg mai buddugoliaethau dros Loegr yw’r prif atgofion. Wrth gwrs, yr un arall sy’n aros yn y cof yw’r fuddugoliaeth dros Iwerddon i ennill y Gamp Lawn yng Nghaerdydd yn 2005, o dan Mike Ruddock. Doeddwn i erioed ‘di gweld gymaint o dorfeydd yn y ddinas, ac roedd e’n ddiwrnod gwych.

Clwb Rygbi Rhyngwladol: Yr Eidal Dan 20 v Cymru Dan 20, Nos Wener 3 Chwefror 5.30, S4C. Sylwebaeth Saesneg ar gael .

Author