Home » Eryri’n barod i groesawu Eisteddfod Ffermwyr Ifanc
Cymraeg

Eryri’n barod i groesawu Eisteddfod Ffermwyr Ifanc

BYDD digon o hwyl yn Venue Cymru, Llandudno nos Sadwrn, 18 Tachwedd, wrth i Eryri groesawu Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2017.

Anni Llŷn, Meinir Howells, Ifan Jones Evans a Terwyn Davies fydd yn dod â holl gyffro’r digwyddiad, o’r cystadlu hwyliog i’r cyffro cefn llwyfan, i wylwyr S4C. Ac mae Anni’n edrych ymlaen yn arw at brofi hwyl y cystadlu eto eleni.

“Mae’r Eisteddfod yn gyfle gwych i aelodau o bob cwr o Gymru – rhai’n ffermwyr ac eraill sydd ddim yn ffermio – ddod at ei gilydd i gael hwyl a dangos diwylliant cefn gwlad Cymru ar ei orau,” meddai’r ferch fferm sy’n wreiddiol o Sarn Meyllteyrn, Pen Llŷn ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. “Mae’r amrywiaeth eang o gystadlaethau bob amser yn cynnig gwledd liwgar o adloniant, ac mae’r safon yn gallu bod yn uchel iawn.”

Bydd S4C yn darlledu’r cystadlu brwd yn fyw am 5.00 o’r gloch y prynhawn, ac eto o 8.30 hyd nes i’r holl gystadlu ddod i ben.

Mae gan Anni fwy o reswm i edrych ymlaen at yr Eisteddfod eleni gan ei bod hi’n arfer bod yn aelod o glwb Ffermwyr Ifanc Eryri a gan mai ei mam, Rhian Parry, yw Llywydd Anrhydeddus y digwyddiad eleni.

“Roeddwn i’n arfer cystadlu gyda’r llefaru a’r ddeuawd ddoniol hefo Clwb y Rhiw pan oeddwn i’n iau ac fe wnaeth mam gystadlu yn yr Eisteddfod pan oedd hi’n feichiog hefo fi! Wrth gwrs, mae’n grêt ei bod hi’n Llywydd ac mae pobl Eryri wastad yn groesawgar. Ond er fy nghysylltiadau personol. Mae’r ffaith bod rhaid cynnal yr Eisteddfod y tu hwnt i ffiniau’r sir, yn neuadd fawr Venue Cymru, yn beth da ac yn dangos pa mor boblogaidd yw’r digwyddiad.”

Oes gan Anni hoff gystadlaethau mae hi’n edrych ymlaen at eu gweld yn ystod y noson?

“Mae’r cystadlaethau ysgafn wastad yn hwyl,” meddai Anni. “Y sgets a’r ddeuawd ddoniol ac ati. Dwi fel arfer yn mwynhau’r perfformiadau ond hefyd yn rhyfeddu at ba mor wreiddiol mae’r cynyrchiadau. Mae rhywun yn gallu mwynhau’r comedi a’r gwaith creadigol sydd tu ôl i’r perfformiad – a dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld pa sir fydd yn dod i’r brig!”

Ac os ydych chi am fwynhau rhagor o gwmni’r ffermwyr ifanc, bydd rhaglen arbennig ar S4C dros y Nadolig yng nghwmni Lisa Angharad am y gwaith paratoi a’r tynnu coes, cyn ac yn ystod, Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc.

Author

Tags