Home » Ffermydd da byw yn edrych ar effeithlonrwydd cynhyrchu er mwyn lleihau allyriadau
Cymraeg

Ffermydd da byw yn edrych ar effeithlonrwydd cynhyrchu er mwyn lleihau allyriadau

MAE dwy fferm dda byw yng Nghymru yn cymryd camau i wella effeithlonrwydd cynhyrchu er mwyn gwneud eu systemau’n fwy effeithlon o ran carbon.

Mae Fferm Bryn, ger Aberteifi, a Hendre Ifan Goch, Pen-y-bont, yn safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio.

Trwy eu gwaith prosiect gyda Cyswllt Ffermio, maen nhw’n gweithio gyda’r arbenigwr bîff a defaid annibynnol Dr Liz Genever i gyflwyno camau gweithredu i leihau allyriadau ymhellach.

Mae’r ddwy fferm eisoes yn dal a storio mwy o garbon o lawer na’r hyn y maen nhw’n ei ryddhau bob blwyddyn – mae cydbwysedd allyrru carbon ar fferm Bryn yn -82.87 tunnell CO2e ac yn -197.01 tonnes CO2e ar fferm Hendre Ifan Goch, gan fod gan y ddwy fferm lefelau uchel o ddeunydd organig yn y pridd.

Yn ystod gweminar diweddar a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio, dywedodd Dr Genever bod lle i wella’r ffigyrau hynny ymhellach trwy sicrhau enillion ymylol mewn sawl maes, ond ychwanegodd: “Bydd hyn yn her gan eu bod yn gwneud gwaith mor dda o ran perfformiad anifeiliaid.’’

Y da byw eu hunain sy’n cynhyrchu’r lefel uchaf o allyriadau. “Dyma’r agwedd fwyaf sylweddol o ran lleihau allyriadau. Gellir gwneud enillion mewn meysydd megis sicrhau bod anifeiliaid llai cynhyrchiol yn gadael y fferm,’’ ychwanegodd Dr Genever .

Ar fferm Bryn, daw 43% o’r allyriadau o’r gwartheg, felly’r prif ffocws i’r ffermwyr, Huw a Meinir Jones yw gwella effeithlonrwydd yn eu buches o 80 o wartheg sugno.

Y nod yw i bob buwch ddiddyfnu lloi sydd o leiaf 45% o’u pwysau; ar fferm Bryn, mae gwartheg yn pwyso oddeutu 575kg, felly, os bydd 94 o’r lloi o’r 100 o wartheg sy’n cael eu troi at y tarw’n cael eu magu ac os maent yn pwyso oddeutu 260kg wrth ddiddyfnu, mae hynny’n rhoi effeithlonrwydd o dros 45% ar gyfer y fuwch.

Mae porfeydd aml-rywogaeth hefyd yn cael eu tyfu er mwyn gwella cyfraddau twf y gwartheg sy’n tyfu. Bydd y teulu Jones hefyd yn monitro’r defnydd o danwydd a nitrogen.

Mae trin y tir cyn lleied â phosibl ers dros ddeng mlynedd a system bori cylchdro wedi cynhyrchu lefelau uchel o ddeunydd organig yn y pridd i wrthbwyso allyriadau.

Ar fferm Hendre Ifan Goch, mae’r ddiadell o 600 o famogiaid yn gyfrifol am 49% o’r allyriadau, felly unwaith eto, bydd effeithlonrwydd mamogiaid yn brif ffocws, ynghyd â chyfraddau twf.

Y nod ar gyfer y ddiadell yw magu o leiaf 65% o bwysau’r famog hyd at ddiddyfnu.

“Mae’r mamogiaid yn pwyso 65kg felly os bydd 1.65 o ŵyn fesul mamog sy’n cael ei throi at yr hwrdd yn cael eu magu a bod yr ŵyn yn cyrraedd 26kg wrth gael eu diddyfnu, bydd y targed o 65% o bwysau’r famog yn cael ei gyflawni,” meddai Dr Genever.

Byddant yn ceisio gwneud gwelliannau o ran cyfraddau twf ar ôl diddyfnu gan fod perfformiad yn gallu bod yn her yn ystod yr hydref oherwydd argaeledd glaswellt a diffyg elfennau hybrin.

“Po hiraf y bydd yr ŵyn ar y fferm, mwyaf yn y byd y byddan nhw’n ei fwyta, a byddant yn cynhyrchu mwy o fethan,” meddai Dr Genever.

Er mai carbon yw’r pwnc llosg ym myd amaeth ar hyn o bryd, rhybuddiodd bod disgwyliadau pellach gan brynwyr ar y gweill, megis monitro bioamrywiaeth ac effaith cymdeithasol y busnes fferm.

“Mae’n bosibl canolbwyntio gormod ar garbon, ond mae angen i ni ystyried beth sy’n dod nesaf hefyd.’’

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.