Home » Galwad i gryfhau rôl y Comisiynydd plant
Cymraeg

Galwad i gryfhau rôl y Comisiynydd plant

Mesur Cymru newydd yn gyfle i ail-edrych ar bwerau Comisiynydd Plant Cymru: Liz Saville Roberts AS

MAE AELOD Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd a Llefarydd y Blaid ar Faterion Cartref a Chyfiawnder, Liz Saville Roberts yn dadlau y dylai Comisiynnydd Plant Cymru gael mwy o bwerau i ddelio â cham drin plant.

Galwodd Liz Saville Roberts ar Lywodraeth San Steffan i gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau fod gan Gomisiynnydd Plant Cymru y pwerau angenrheidiol i weithredu fel y cyswllt perthnasol yng Nghymru er mwyn diogelu plant yn sgil canfyddiadau Adroddiad Macur.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Ers cyhoeddi Adroddiad Macur, rydym wedi cael yr argraff fod prosesau a data wedi bod yn fwy o flaenoriaeth na sicrhau cyfiawnder i oroeswyr cam-driniaeth, a oedd yn blant pan gyflawnwyd cam-driniaeth yn eu herbyn.”

“Os yw Macur wedi dysgu unrhywbeth i ni, yna o hyn ymlaen, rhaid i adolygiadau flaenoriaethu goroeswyr a dioddefwyr. Dylent gael y cyfle i roi cyngor ar y cylch gorchwyl a phroses ymchwiliad a chael eu cefnogi’n briodol bob cam o’r ffordd.”

“Yn ddi-os, dylai Comisiynnydd Plant Cymru gael mwy o bwerau i gynnwys unrhyw feysydd sy’n ymwneud â cham-drin plant. Siawns bydd y Mesur Cymru newydd yn gyfle i edrych eto ar bwerau’r Comisiynnydd fel eu bod yn adlewyrchu pwerau Comisiynnydd Plant Lloegr.”

“Yn ddiau mae angen ymrwymiad i sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed yn y system gyfiawnder, ac mewn iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal ag unrhyw sector arall sy’n cynnwys gofalu am blant ac yn cynnwys y potensial ar gyfer camdrin.”

“Byddai cryfhau pwerau’r Comisiynnydd Plant fel eu bod yn adlewyrchu’r pwerau cyfatebol a roddir i Gomisiynnydd Plant Lloegr yn gam cadarnhaol tuag at unioni’r ffordd y mae lleisiau plant yn cael eu clywed.”

Author