Home » Gobaith Iolo am gariad yn ffrwydro’n wenfflam
Cymraeg

Gobaith Iolo am gariad yn ffrwydro’n wenfflam

Dyfan Rees: Mae angen newid meddylfryd rhai pobl
Dyfan Rees: Mae angen newid meddylfryd rhai pobl
Dyfan Rees: Mae angen newid meddylfryd rhai pobl

MAE IOLO wedi trefnu dêt â bachgen mae e wedi cwrdd ag ef ar wefan gariad ‘Folcano’. Ond a fydd y dêt yn un tanboeth, neu a fydd gobaith Iolo am gariad yn ffrwydro’n yfflon?

Mae un peth yn sicr, mae Iolo yn wynebu wythnos danllyd yng nghyfres sebon dyddiol S4C Pobol y Cwm.

“Mae Iolo yn rili excited cyn mynd ar y dêt,” meddai Dyfan Rees, 26 oed, sy’n portreadu mecanic Cwmderi yn y ddrama a gynhyrchir gan BBC Cymru. “Mae gyda fe deimladau tuag at Tyler, ond gan fod Tyler wedi dod â rhywun arall gartre’, mae e’n penderfynu ei fod e moyn ffeindio rhywun arall a gwneud hynny drwy fynd ar ap Cariad.

Mae ei berthynas gyda Wiliam hefyd wedi rhoi loes iddo fe. Mae e’n cymryd dewrder i Iolo fynd ar ap gariad ac mae e mas o’i gymeriad e.

Mae e’n gymeriad reit henffasiwn ac mae e’n teimlo’n ofnadwy o nerfus. Ond ry’n ni gyd wedi bod yna, mae’n rhaid i ti fynd mas o dy comfort zones weithiau, neu ei di ddim i unlle.”

Ond er cynnwrf a gobaith Iolo cyn cwrdd â’r dyn ar y wefan cariad, mae’r dêt yn troi’n hunlle’ i Iolo druan. Nid yw’r dieithryn wedi bod yn onest gydag e’, ac mae byd Iolo yn chwalu’n deilchion. Bydd rhaid i ddilynwyr Pobol y Cwm wylio i weld beth yn union fydd tynged y cymeriad hoffus. Ond gyda chynifer o bobl y dyddiau hyn yn cyfarfod partneriaid ar wefannau cariad, mae’r actor sy’n portreadu Iolo yn rhybuddio bod rhaid bod yn ofalus.

“Er dy fod ti’n gweld llun person, yn gweld eu henw a’u hoedran ar wefannau, dwyt ti ddim yn gwybod yn iawn pwy rwyt ti’n cwrdd â nhw go iawn. Os wyt ti’n cwrdd â phobl mewn llefydd anghysbell am y tro cyntaf, a does dim camerâu na dim i dy warchod di, mae’n hynod o beryglus,” meddai Dyfan, sy’n wreiddiol o Grwbin, ger Pontyberem.

“Mae e’n fy ypsetio i fod pobl yn gallu bod mor ofnadwy tuag at eraill. Mae ‘na bobl mas ‘na sy’n mynd mas o’u ffordd i roi loes, ac ymyrryd ar fywydau ac mae hynny’n ymddygiad pathetig a chas.”

Mae Dyfan wedi bod yn actio Iolo ers iddo fod yn 19 oed; ac ers hynny mae’r actor ifanc wedi ymdrin â sawl stori heriol, yn cynnwys Iolo yn dod allan yn hoyw, yn colli ei fam a delio â’i salwch OCD. Er nad yw Dyfan yn hoyw, mae wedi profi rhagfarn am ei fod yn actio rhywun hoyw. Mae e’n teimlo’n gryf bod angen newid meddylfryd ambell berson yn y gymdeithas.

“Mae pobl wedi dweud pethau cas wrtha i oherwydd ‘mod i’n actio rhywun hoyw. Mae hyn yn fy ngwneud i’n flin a thrist. Er nad ‘wy’n hoyw, dwi’n uniaethu gyda’r cymeriad; ac mae hi’n bwysig rhoi llais i bobl sydd ddim bob amser â llais. Mae e’n gyfle i roi sylw i achosion, a cheisio newid rhagfarn.”

online casinos UK

Ond beth yn union fydd tynged Iolo? Gwyliwch Pobol y Cwm yr wythnos hon.

Author