Home » Gwasanaeth newydd i ddysgwyr ar S4C yn 2019
Cymraeg

Gwasanaeth newydd i ddysgwyr ar S4C yn 2019

YDYCH chi’n un am osod addunedau blwyddyn newydd?

Boed i fwyta’n iach, cerdded 10,000 o gamau bob dydd neu i dreulio llai o amser ar eich ffôn – mae pawb yn gobeithio trawsnewid eu bywydau mewn rhyw ffordd ar ddechrau blwyddyn newydd.

Eleni, beth am osod adduned blwyddyn newydd o fath gwahanol i’ch hunain – dysgu Cymraeg, neu helpu rhywun i ddysgu Cymraeg?

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae modd i ni gyd gyfrannu i gyrraedd y targed hwnnw mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Ysgogwch rywun i ddysgu Cymraeg ar ddechrau blwyddyn newydd, a gall S4C helpu gyda gwasanaeth dysgu Cymraeg newydd sbon yn galennig.

Ar 13 Ionawr bydd gwasanaeth newydd ar gyfer dysgwyr yn dechrau ar S4C, sef S4C Dysgu Cymraeg, fydd yn cynnig darpariaeth Gymraeg i ddysgwyr ar bob lefel. Bydd y gwasanaeth yn cynnwys awr o raglenni ar brynhawniau Sul a chynnwys digidol ar y gwefannau cymdeithasol.

Yn wasanaeth cyffrous newydd, bydd rhaglen newyddion ar gyfer dysgwyr, Yr Wythnos, ymlaen bob dydd Sul am 12.00, gydag Alexandra Humphreys yn edrych nôl dros rai o brif straeon a newyddion yr wythnos.

Yn dilyn y newyddion, bydd rhaglenni sydd ag iaith syml, addas ar gyfer dysgwr ymlaen ar y sianel, gan gychwyn ar 13 Ionawr gyda chyfres newydd Dan Do, ble bydd Aled Sam a Mandy Watkins yn teithio hyd a lled y wlad i ymweld â chartrefi mwyaf diddorol Cymru.

Ar ben hynny, bydd cynnwys digidol ar gael ar dudalen Facebook a Twitter S4C Dysgu Cymraeg, ar gyfer dysgwyr Cymraeg ar bob lefel. Bydd eitemau fideo yn cael eu postio yn wythnosol ar y dudalen, gyda chynnwys yr eitemau yn amrywio o newyddion, drama, gomedi neu gynnwys ffeithiol.

Bydd o leiaf un fideo bob wythnos yn cael ei deilwra’n arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg ar lefel mynediad. Felly mae modd i ddysgwyr sy’n cymryd y cam cyntaf ar y daith i ddysgu Cymraeg gael budd o wasanaeth dysgwyr newydd S4C.

Gall ysgogi rhywun i ddysgu Cymraeg fod mor syml â gyrru fideo o dudalen Facebook S4C Dysgu Cymraeg i ffrind. Hawdd! Eleni, newidiwch fywyd rhywun gyda’r Gymraeg, a helpwch nhw i fod yn un o’r miliwn o siaradwyr cyn 2050.

online casinos UK

Gwyliwch, hoffwch, dilynwch a thagiwch – S4C Dysgu Cymraeg, a byddwch yn un o’r miliwn.

Author