Home » Cerddwyr Cylch Teifi
Cymraeg

Cerddwyr Cylch Teifi

Cerddwyr Cilwendeg: Ar daith gylch

YM MIS Rhagfyr, aethon ni i ardal Boncath gyda Hedd Ladd-Lewis yn arwain. Aethom ar daith gylch gan ymweld ag Eglwys Capel Colman a Chilwendeg. Roedd glaw, ond dim digon i amharu â’r hwyl. Mwynhawyd mynd i mewn i Eglwys Capel Colman a gweld ei phensaernïaeth anarferol, gyda Hedd yn ein goleuo am ei hanes. Wrth Dŷ Cregyn, Cilwendeg, clywsom ragor am hanes y lle rhyfedd hwn, ac rwy’n siŵr y bydd llawer ohonom yn mynd yn ôl yn yr haf i weld y tu mewn iddo. Ar ôl y daith, aeth rhai ohonom ymlaen i gael croeso cynnes Cymraeg a lluniaeth yn y Crymych Arms.

Yn y flwyddyn newydd, 12 Ionawr 2019, awn i ardal Llangrannog a’n harweinwyr fydd Ros Price-Jones a Russ Price. Byddwn yn gadael maes parcio uchaf (di-dâl) Llangrannog (SN 316 538; Cod post SA44 6RJ) am 10:30. Cerddwn daith gylch o ryw dair milltir, tua dwy awr gan anwybyddu’r amser byddwn yn ei dreulio ar gyfer lluniaeth yn y pentref. O’r maes parcio fe drown ni oddi ar y briffordd i’r llwybr sy’n arwain at Rydcolomennod cyn dilyn yr heol dawel trwy Wersyll yr Urdd i gyrraedd llwybr yr arfordir. Bydd y llwybr yn mynd â ni lan heibio Pendinas Lochtyn ac wedyn i lawr i’r pentref ger y traeth. Bydd y daith dywysedig yn dod i ben yno a’r cerddwyr yn cael cyfle i gael lluniaeth (sawl tafarn a chaffi) cyn mynd lan trwy’r pentref, pryd bynnag yr hoffent, yn ôl i’r maes parcio (ar y ffordd i Frynhoffnant). Cyfanswm yr esgyniad fydd tua 500 troedfedd. Bydd peth mwd ar y llwybrau ond dim sticlau. Bydd y pwyntiau o ddiddordeb yn cynnwys hanes plasty Rhydcolomennod, Gwersyll yr Urdd a’r cynlluniau newydd ac Ynys Lochtyn.

Ddydd Sadwrn 9fed Chwefror byddwn yn ardal Aberteifi a Patch, gyda Pob Thomas yn arwain. Byddwn yn gadael y maes parcio (tâl) ar bwys yr hen archfarchnad ar lan Afon Teifi (SN 175 459; Cod post: SA43 1HR) am 10:30. Awn ar daith unffordd, ddwy awr o ychydig yn llai na 3 milltir ar dir gwastad; byddwn yn dilyn Llwybr yr Arfordir yr holl ffordd i’r maes parcio rhwng Penyrergyd a Gwbert (Jubilee) lle gosodir ceir ymlaen llaw i fynd a’r gyrwyr yn ôl i Aberteifi. Cerddwn ddwy filltir ar lwybr troed (a all fod yn fwdlyd mewn mannau) i Nantydderwen a’r filltir olaf ar y palmant wrth ochr y ffordd. Ni fydd sticlau. Cawn ddysgu am hanes a byd natur yr ardal wrth gerdded. Wedyn bydd cyfle i gymdeithasu dros luniaeth yng Nghaffi Gorffwysfa’r Pysgotwyr wrth y man cychwyn

Mae croeso cynnes i bawb ar bob taith. Darllenwch fanylion y daith i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol; dewch â dillad addas, yn enwedig esgidiau sy’n gymwys i dir gwlyb ac anwastad: a chymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded ar hyd ffyrdd heb balmant neu ar lethrau serth.

Isod, mae manylion bras ein teithiau nesaf. Os hoffech ragor o fanylion, neu i fod ar y rhestr bostio, cysylltwch â [email protected] 01239 654561

12 Ionawr: Ardal Llangrannog

Gadael maes parcio uchaf (di-dâl) Llangrannog (SN316 538) (Cod post SA44 6RJ) am 10.30yb.
Arweinwyr: Russ Price a Ros Price-Jones

9 Chwefror: Ardal Aberteifi a Patch
Gadael y maes parcio (tâl) ar lan afon Teifi (SN 175 459) (Cod post SA43 1HR) am 10.30yb.
Arweinydd: Pob Thomas

9 Mawrth: Rhos-y-bwlch / Rosebush

Gadael maes parcio Rosebush (SN075 295) (Cod post SA66 7QX) am 10.30yb.
Arweinwyr: Gwyndaf a Heather Tomos

online casinos UK

Author