Home » Gweinidog yn cefnogi amgueddfeydd lleol
Cymraeg

Gweinidog yn cefnogi amgueddfeydd lleol

Ken Skates AC: Amgueddfeydd rôl bwysig
Ken Skates AC: Amgueddfeydd rôl bwysig

MAE’R DIRPRWY Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, wedi cytuno i ddatblygu argymhellion adroddiad annibynnol ar ddarparu gwasanaethau amgueddfeydd lleol yn y dyfodol yng Nghymru.

Cafodd yr Adolygiad Arbenigol o Ddarpariaeth Amgueddfeydd Lleol yng Nghymru ei gomisiynu yn hydref 2015 er mwyn ystyried effaith toriadau o ran cyllid a newidiadau sefydliadol gan awdurdodau lleol ar amgueddfeydd lleol.

Cyflwynodd y panel eu hadroddiad terfynol ym mis Awst y llynedd a phennwyd deg o argymhellion ar gyfer sicrhau dyfodol y ddarpariaeth o wasanaethau amgueddfeydd lleol.

Mae’r Dirprwy Weinidog wedi cymeradwyo cyfres o fesurau a bydd Strategaeth o’r newydd ar gyfer Amgueddfeydd yng Nghymru yn cael ei datblygu er mwyn mynd i’r afael â’r rhain. Mae’r camau’n cynnwys cydweithio â’r sector er mwyn sefydlu Casgliadau Cymru, gan ddatblygu a diogelu casgliadau ar draws y wlad, a chomisiynu adolygiad o daliadau mynediad i amgueddfeydd er mwyn sicrhau eglurder i’r sector ac i ymwelwyr. Ni fydd hyn yn newid polisi Llywodraeth Cymru o gynnig mynediad am ddim i’r Amgueddfeydd Cenedlaethol.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn ystyried pa mor ymarferol fyddai creu Byrddau Rhanbarthol a allai gynnig cyfarwyddyd gweithredol, rheolaeth a chefnogaeth ar gyfer amgueddfeydd lleol. Bydd y grŵp llywio a fu’n gyfrifol am gadw golwg ar y strategaeth genedlaethol gyntaf ar gyfer amgueddfeydd yn y DU hefyd yn cael ei ddatblygu er mwyn bodloni’r argymhelliad i sefydlu Cyngor Amgueddfeydd cenedlaethol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Mae amgueddfeydd lleol yn asedau o fewn ein cymunedau. Maent yn cynnig profiadau addysgol heb eu hail a hefyd yn creu cyfleoedd dysgu ymarferol drwy arddangosfeydd y mae modd eu gweld a’u cyffwrdd. Maent yn dod â’n gorffennol yn fyw. Maent hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig at ein diwydiant twristiaeth.

“Gan fod y rhan fwyaf o amgueddfeydd yn dibynnu’n fawr iawn ar gyllidebau awdurdodau lleol mae’r cyfnod hwn yn un ansicr iawn iddynt. Roeddwn yn teimlo ei bod hi’n bwysig sicrhau argymhellion clir ynghylch y modd y gall amgueddfeydd lleol barhau i fynd o nerth i nerth er gwaethaf y ffaith bod cyllidebau’n fwy tynn.

“Rwy’n falch iawn ein bod yn mynd i’r afael ag argymhellion panel yr adolygiad. Bydd gofyn i’r sector cyfan weithio mewn partneriaeth ac ymrwymo i’r gwaith. Mae hefyd yn bwysig nodi cyfrifoldeb awdurdodau lleol o ran gwarchod ein treftadaeth. Rydym yn disgwyl iddynt nodi eu bwriadau o ran gwasanaethau amgueddfeydd ac ystyried pob opsiwn wrth adolygu eu cyllid ar gyfer y gwasanaethau hollbwysig hyn.”

Author