Home » ​Hanes newydd am flwyddyn newydd
Cymraeg

​Hanes newydd am flwyddyn newydd

RHAID rhoi mwy o bwyslais ar ddysgu hanes Cymru os am warchod ein hunaniaeth fel cenedl, meddai arweinydd Cristnogol Cymreig yn ei Neges Flwyddyn Newydd.

“Ein hanes yw cof y genedl. Mae’n esbonio o ble y daethom ni, pwy ydym ni heddiw, ac yn helpu ein cyfeirio at yfory,” meddai Glyn Williams, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy’n cynrychioli Cristnogion sy’n cwrdd mewn 400 o gapeli ledled Cymru. “Dylai Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Addysg Lleol wneud adduned Flwyddyn Newydd bod hanes Cymru, a hanes o safbwynt Cymreig, yn cael ei ddysgu’n ehangach yn ein hysgolion a’n colegau. Mae digwyddiadau a chymeriadau crefyddol wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at ffurfio ein hunaniaeth fel cenedl,” meddai.

“Ar hyn o bryd, ofnaf fod hanes ein gwlad yn gyffredinol, a’i hanes crefyddol yn benodol, yn cael ei esgeuluso. Yn 2017, er enghraifft, buom yn dathlu 300mlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn – un o emynwyr mwyaf y byd, a roddodd lais i Ddiwygiad Mawr yr 18fed ganrif, yr hyn a luniodd cymeriad ein cenedl yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Mae’r tyrfaoedd rygbi yn dal i ganu “Bread of Heaven” Williams ond bach iawn a ddysgir yn ein hysgolion amdano ef a’r effaith gafodd ar ein cenedl. Mae’r un peth yn wir am William Salesbury, a gyfieithodd y Testament Newydd i’r Gymraeg 450 mlynedd yn ôl i’r llynedd. Dyma’r athrylith wnaeth baratoi’r ffordd i William Morgan gyfieithu’r Beibl gyfan, a thrwy hynny sicrhau bod y Gymraeg yn goroesi hyd heddiw. Eto, oes yna sôn o gwbl am Salesbury yn ein hysgolion?” gofynnodd Glyn Williams.

Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn gwneud ei ran i oleuo pobl am ein gorffennol trwy baratoi cyfres o fideos o’r enw “Y Ffordd y Daethom”, sy’n adrodd hanes Anghydffurfiaeth Gristnogol yng Nghymru, mewn cyd-destun Cymreig ehangach ac Ewropeaidd. Mae gan yr Undeb uned ffilmio, stiwdio deledu gydag offer golygu, a darlledwyr proffesiynol ar ei staff – rhywbeth sy’n unigryw ym myd crefydd yng Nghymru. Bob tri mis mae fideo newydd yn cael ei baratoi. Maent hwy ar gael ar CDs ac Ar-lein fel sail ar gyfer trafodaeth grŵp mewn capel, yn y cartref neu le bynnag.

Author

Tags