Home » Holl emosiwn a drama rhoi tŷ Ar Werth
Cymraeg

Holl emosiwn a drama rhoi tŷ Ar Werth

O BLASTAI moethus ar lannau’r Fenai i fflatiau un stafell yng Nghaerdydd, does dim prinder o dai ar werth yng Nghymru.

Mae cyfres newydd, Ar Werth, sy’n dechrau nos Fercher, 21 Chwefror, yn dilyn rhai o werthwyr tai amlycaf Cymru ac yn profi’r holl emosiynau a drama sy’n dod wrth werthu a phrynu tai mewn cyfnod heriol i’r diwydiant.

Yn y rhaglen gyntaf cawn weld sut mae hen blasty ar lan y Fenai yn Sir Fôn wedi cael ei droi’n fflatiau moethus, a’r her sy’n wynebu’r gwerthwr tai Dafydd Hardy i’w gwerthu nhw. Draw yn Aberystwyth, mae’r gwerthwr tai Iestyn Leyshon o gwmni Lloyd Herbert & Jones yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i wneud i’r tai mae e’n eu gwerthu edrych yn fwy deniadol ar y we.

Ond dydy prynu na gwerthu eiddo ddim yn hawdd, yn enwedig i bobl ifanc sy’n chwilio am eu cartref cyntaf. Mae ffigyrau diweddar Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn awgrymu bod prisiau tai Cymru wedi codi 3.3% yn 2017 – cyfradd sy’n tyfu’n gynt nag yng ngweddill y Deyrnas Gyfunol – ac ar gyfartaledd, mae tŷ neu fflat yng Nghaerdydd yn costio £200,000 i’w brynu.

Mae Catrin Thomas wedi bod yn byw yn y brifddinas ers tair blynedd. Ar ôl cyfnod o rentu, mae hi nawr yn awyddus i brynu ei lle ei hun.

“Dwi wedi bod yn siarad hefo mam a dad am y peth a dwi’m yn meddwl bo nhw’n dallt pa mor anodd ydi hi i ni i brynu tŷ rŵan,” meddai Catrin, 24 oed, sy’n wreiddiol o Sir Fôn ac yn gweithio yn y cyfryngau. “Dydy safio am deposit ddim yn beth hawdd pan ti’n rhentu, yn enwedig gan bo fi’n trio gwneud hyn ar fy mhen fy hun. Dwi’n meddwl ei fod o am fod yn reit anodd ac yn broses hir ond fydd rhaid i fi jyst dal ati a chario ‘mlaen a pheidio digalonni os dwi’m yn gweld rhywle yn syth.”

Cawn weld dros yr wythnosau nesaf a fydd Catrin yn dod o hyd i’w chartref delfrydol. Ond oes ganddi rywbeth arbennig mewn golwg?

“Be fyswn i’n licio’i gael ydi tŷ neu fflat hefo open plan kitchen diner, dwy ‘stafell wely – neu dair os dwi’n lwcus – er bo fi’n gwybod yn barod bod hynny tu hwnt i’n price range i.”

Hefyd yn y rhaglen gyntaf, fe gawn gyfarfod cwpl o Aberystwyth sydd wedi ymddeol ac sydd â chynlluniau mawr ar y gweill ar gyfer eu cartref newydd a dynes o Sir y Fflint sydd wedi gwerthu’r cartref teuluol ers colli ei mam a’i gŵr. A byddwn yn cael cipolwg ar dŷ hardd yng Nghricieth sydd ar werth am bron i filiwn o bunnoedd.

Author

Tags