Home » Llwyddiant BAFTA Cymru i S4C
Cymraeg

Llwyddiant BAFTA Cymru i S4C

MAE RHAGLENNI S4C wedi ennill chwech o wobrau BAFTA Cymru 2017 yn y 26ain seremoni wobrwyo yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar nos Sul, 8 Hydref.

Ymhlith y gwobrau bu’r gyfres sy’n gynhyrchiad gan Cwmni Da ar gyfer plant bach, Deian a Loli yn fuddugol yn y categori Rhaglen Blant. Mae’r gyfres wythnosol boblogaidd yn dilyn helynt efeilliaid direidus a’u pwerau hudol. Bydd cyfres newydd yn dychwelyd ar y sgrin ddiwedd mis Hydref.

Roedd y rhaglen Taith Bryn Terfel: Gwlad y Gân (Boom Cymru) yn fuddugol yn y categori Rhaglen Adloniant mewn noson a gyflwynwyd gan y DJ BBC Radio 1, Huw Stephens yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Yn y rhaglen roedd y canwr byd enwog yn ein tywys ar daith gerddorol drwy Gymru ac yn perfformio amrywiaeth o ganeuon o’i ddewis.

Daeth Benjamin Talbott a Victoria Ashfield i’r brig am eu Cerddoriaeth Wreiddiol yn y ddrama Galesa oedd wedi ei ffilmio ym Mhatagonia gyda thrigolion y Wladfa er mwyn nodi 150 ers glaniad y Cymry cyntaf yno. Cafodd Galesa ei ysgrifennu gan Roger Williams ac yn gynhyrchiad gan ei gwmni Joio, sydd hefyd yn gyfrifol am y gyfres ddrama drosedd Bang sy’n un o ddramâu hydref 2017 ar S4C.

Roedd tîm cynhyrchu’r ffilm Y Llyfrgell yn dathlu gyda Euros Lyn yn ennill gwobr Cyfarwyddwr Ffuglen. Yn gynhyrchiad gan Ffilm Ffolyn Cyf, mae’r ffilm sy’n addasiad o nofel boblogaidd Fflur Dafydd, eisoes wedi cael llwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol.

CYHOEDDI’R ENILLWYR: GWOBRAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU 2017

Heddiw rydym wedi cyhoeddi enillwyr Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2017. Mae’r gwobrau’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym myd ffilmiau, gemau a theledu yng Nghymru ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol ddawnus.

Arweiniwyd y seremoni unwaith eto gan gyflwynydd BBC Radio 1, Huw Stephens, yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ac roedd y cyflwynwyr yn cynnwys yr actoresau Alexandra Roach a Vicki McClure a’r actorion Tom Cullen a Peter Capaldi.

Cyflwynwyd 28 Gwobr yn ystod y seremoni gerbron cynulleidfa o 1000 o westeion ac eraill a ymunodd drwy ffrwd fyw. Derbyniodd Aberfan: The Green Hollow dair gwobr – ar gyfer Drama Deledu, Awdur (Owen Sheers) a’r Wobr Torri Trwodd (Jenna Robbins).

SEITHFED WOBR I HUW EDWARDS

online casinos UK

Yn y categorïau perfformio, enillodd Huw Edwards ei 7fed Gwobr BAFTA Cymru fel Cyflwynydd Aberfan – The Fight for Justice, a enillodd y wobr Rhaglen Ddogfen Unigol hefyd, a gyflwynwyd er cof am Gwyn Alf Williams a dderbyniodd sawl gwobr BAFTA Cymru.

Enillodd yr enwebeion tro cyntaf Jack Parry Jones a Kimberley Nixon y Gwobrau Actor (Moon Dogs) ac Actores (Ordinary Lies).

Enillodd Lady Chatterley’s Lover ddwy wobr ar gyfer Dylunio Gwisgoedd (Sarah Arthur) a Cholur a Gwallt (Claire Pritchard-Jones), ac enillodd Damilola, Our Loved Boy y gwobrau ar gyfer Sain (y Tîm Cynhyrchu) a Dylunio Cynhyrchiad (Catryn Meredydd, a enwebwyd yn 2016).

Roedd hanner can mlwyddiant trychineb Aberfan yn amlwg iawn ymhlith yr enwebiadau eleni ac, yn ogystal â’r gwobrau a enillodd Aberfan: The Green Hollow, derbyniodd cynyrchiadau eraill yn ymwneud â’r hanner can mlwyddiant wobrau ar gyfer Cyfarwyddwr Ffeithiol (Marc Evans, sydd wedi ennill 5 Gwobr Cymru yn flaenorol) a Ffotograffiaeth: Ffeithiol (Baz Irvine) ar gyfer Aberfan Young Wives Club.

MICHAEL SHEEN YN ENILLYDD

Enillwyd y wobr Newyddion a Materion Cyfoes gan Michael Sheen: The Fight for my Steel Town, ac enillodd Taith Bryn Terfel – Gwlad y Gân y wobr Rhaglen Adloniant. Enillodd y gyfres ddogfen ar roi organau, sef The Greatest Gift, y wobr Cyfres Ffeithiol a chyflwynwyd y wobr Darllediad Byw i dîm cynhyrchu BBC Young Musician 2016 Grand Final.

Enillodd Euros Lyn, a dderbyniodd Wobr Siân Phillips yn 2015, y wobr Cyfarwyddwr: Ffuglen ar gyfer Y Llyfrgell/The Library Suicides. Derbyniodd Will Oswald y wobr Golygu ar gyfer Sherlock, ac enillodd y ffilm nodwedd deledu Ellen y wobr Ffilm Nodwedd/Deledu. Enillwyd y wobr Cerddoriaeth Wreiddiol gan Benjamin Talbott a Victoria Ashfield ar gyfer Galesa.

Enillwyd y wobr Gêm, a ddychwelodd i Wobrau BAFTA Cymru eleni, gan Dojo Arcade ar gyfer Creature Battle Lab. Cyflwynwyd y wobr Effeithiau Arbennig a Gweledol i’r tîm wrth wraidd y ffilm nodwedd The Lighthouse ac enillodd Richard Stoddard y wobr Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen am y ffilm nodwedd Yr Ymadawiad (The Passing).

DDATHLIAD GWYCH, BYWIOG A CHYFFROUS

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Mae heno wedi bod yn ddathliad gwych, bywiog a chyffrous o’r rhagoriaeth rydym ni’n bodoli i’w chydnabod yn y diwydiant hwn. Gobeithiwn fod pawb a ddaeth i’r seremoni ac a wyliodd y ffrwd fyw o amgylch y byd yn gwerthfawrogi’r unigolion dawnus sydd naill ai’n gweithio yng Nghymru neu sy’n dod o Gymru ac yn gweithio ar gynyrchiadau ledled y Deyrnas Unedig. Maen nhw’n wirioneddol ysbrydoledig ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw er mwyn ennyn diddordeb y genhedlaeth nesaf yn ein digwyddiadau yn ystod y flwyddyn i ddod.

Rydym wedi derbyn mwy o enwebiadau, croesawu mwy o westeion, ymgysylltu â mwy o bartneriaid a gweithio gyda’n pwyllgor ymroddedig i sicrhau bod y gwobrau hyn, sef uchafbwynt y flwyddyn gynhyrchu, yn ddigwyddiad o’r radd flaenaf a fwynheir gan bawb. Edrychwn ymlaen at eu gweld yn tyfu o nerth i nerth.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C, Amanda Rees, “Eleni eto, mae llwyddiannau S4C yn dyst i ymroddiad a chreadigrwydd y sector. Mae unigolion a chwmnïau cynhyrchu talentog sy’n creu cynnwys o’r safon uchaf all gydio yn nychymyg y gwylwyr. Llongyfarchiadau mawr i’r enwebwyr a’r enillwyr i gyd.”

Author