Home » Mae Ceffyl Du yn syrthio dros iaith
Cymraeg

Mae Ceffyl Du yn syrthio dros iaith

MAE CWMNI banc Lloyds wedi ymddiheuro am “ddryswch” ar ôl i’r Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe gael ei gythruddo gan eu “polisi” o wrthod ffurflenni Cymraeg.

Roedd Catrin, merch Mike Hedges, am agor cyfrif banc newydd fel myfyrwraig ar ôl cael ei derbyn i astudio Cymraeg a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd ganddi gyfrif cyfredol gyda’r banc eisoes.

Ond gan fod ei llythyr UCAS yn Gymraeg, roedd cangen Abertawe o’r banc yn gwrthod ei dderbyn fel dogfen er mwyn agor y cyfrif newydd, gan ddweud mai eu “polisi” yw peidio â derbyn dogfennau yn Gymraeg.

Dywedodd Mike Hedges wrth golwg360 y byddai’n mynd â’r achos ymhellach, a’i fod yn barod i droi at Gomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru.

“Dw i’n bwriadu mynd at y banc ac at Gomisiynydd y Gymraeg oherwydd, er nad yw banciau’n rhan o waith Comisiynydd y Gymraeg, dw i’n credu y dylai hi leisio ei barn.

“Dw i hefyd yn bwriadu mynd at Lywodraeth Cymru.”

Dywedodd llefarydd ar ran Banc Lloyds: “Rydym yn ymddiheuro am y dryswch yn y mater hwn.

“Rydym yn cydnabod cynigion UCAS yn y Gymraeg, ac mae gennym nifer o aelodau staff sy’n ymdrin â’r cyhoedd sy’n gallu siarad Cymraeg.

“Rydym yn cymryd camau ar unwaith i sicrhau bod ein holl gydweithwyr yn ymwybodol o’r canllawiau cywir.”

online casinos UK

Dywedodd David Williams: “Mae’r digwyddiad yn dystiolaeth bellach o’r angen i estyn hawliau iaith i weddill y sector breifat, gan gynnwys y banciau. Mae ymddygiad y banc yn gwbl annerbyniol. Mae’n eironig bod Aelod Cynulliad Llafur yn dioddef o bolisi ei Lywodraeth ei hun. Cwta wythnos yn ôl, cyhoeddodd y Gweinidog Llafur Alun Davies bapur gwyn yn datgan nad oedd e’n bwriadu estyn y ddeddfwriaeth iaith i fanciau. Unwaith eto, mae gyda ni Lywodraeth Llafur yn amddiffyn y bancwyr yn lle pobl Cymru.”

Y Comisiynydd Iaith yn galw am gyfarfod gan Banc Lloyds

Meddai Meri Huws: “ Er ein bod ar ddeall fod Banc Lloyds wedi ymddiheuro am y mater dan sylw, rydym wedi holi’r banc am eglurhad o’r sefyllfa ac am gyfarfod i drafod y camau nesaf.

“Byddwn hefyd yn defnyddio’r achos yn ein fforwm gyda’r banciau fel enghraifft i’w hatgoffa am statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru ac am yr angen i gynnig gwasanaethau Cymraeg a pharchu dewis iaith eu cwsmeriaid. Cafodd ein fforwm gyda banciau’r stryd fawr ei sefydlu er mwyn canolbwyntio ar ddatblygu a gwella eu defnydd o’r iaith.”

Author