Home » ‘Mae gan Gymru’r momentwm’
Cymraeg

‘Mae gan Gymru’r momentwm’

MAE CYFLWYNYDD pêl-droed S4C, Dylan Ebenezer, yn barod am benwythnos hir, bythgofiadwy wrth i ymdrechion Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia barhau.

Ac fe fydd miloedd o gefnogwyr Cymru yn ymuno ag e ar y siwrnai gyffrous ar S4C wrth i’r sianel ddarlledu’r ddwy gêm ragbrofol olaf yng Ngrŵp D yn fyw.

Bydd y penwythnos hir o bêl-droed yn dechrau yn Georgia ddydd Gwener, 6 Hydref ac yn cyrraedd uchafbwynt nos Lun, 9 Hydref pan fydd Cymru’n herio Iwerddon.

“Bydd y ddwy gêm yn ofnadwy o anodd, ond os gwnawn ni ennill mas yn Georgia, rwy’n wir yn meddwl yr enillon ni’r ail gêm gartre’ hefyd,” meddai Dylan, cyflwynydd rhaglen bêl-droed wythnosol S4C, Sgorio.

“Rwy’n gwybod bod y gair ‘momentwm’ yn dipyn o cliché, ond yn yr achos ‘ma mae’n wir. Yn y gêm gyntaf yn erbyn Georgia gartre’ pan gafodd Gymru gêm gyfartal ar ôl perfformiad siomedig, roedden ni’n diodde’ o dipyn bach o Euro hangover. Ond y tro hwn bydd pethau’n hollol wahanol, byddan nhw’n canolbwyntio’n llwyr ar gael y fuddugoliaeth.”

Yn ymuno â Dylan ar gyfer y gemau, bydd y tîm sylwebu Nic Parry a Malcolm Allen, gyda’r cyn chwaraewyr rhyngwladol Owain Tudur Jones a Dai Davies yn dadansoddi yn y stiwdio.

Gyda Serbia yn edrych yn debygol o ennill y grŵp, y gobaith mwyaf i Gymru yw gorffen yn ail; hyd yn oed wedyn does dim sicrwydd y byddan nhw’n cyrraedd y gemau ail gyfle.

“Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn bositif a mynd amdani,” meddai Dylan. “Rwy’n gwybod yn erbyn Awstria bod y tîm wedi cael llond pen gan Chris Coleman yn yr ystafell newid hanner amser achos eu bod nhw’n chwarae mewn ofn o gael cardiau melyn. Dywedodd wrthyn nhw i anghofio am y cardiau melyn a chwaraeodd y tîm lot gwell yn yr ail hanner ac ennill.

“Mae’n rhaid iddyn nhw chwarae gyda’r un penderfyniad yn y gemau yma. Fe ddylai Ramsey a Bale fod ‘nôl ar eu gorau, ac wrth gwrs bydd Ben Woodburn ar y fainc … Mae’n fater o ‘un cyfle mewn oes’ i gyrraedd Rwsia ac mae’n rhaid iddyn nhw fynd amdani.”

Author