MAE LLANELLI yn fwy adnabyddus am ei rygbi na’i chysylltiad gyda’r byd harddwch, ond mae’r dref hefyd ar fap y pasiantau harddwch erbyn hyn, diolch i Emma Jenkins un o ferched tre’r sosban. Ym mis Rhagfyr y llynedd Emma oedd yn cynrychioli Prydain Fawr yng ngornest harddwch fwya’r bydysawd, Miss Universe yn Atlanta.
Mewn portread agored, cawn ddod i adnabod Emma wrth iddi gystadlu am goron Miss Universe 2019. Cawn hefyd weld beth yw realiti bywyd i fenyw mwyaf prydferth Prydain yn DRYCH: Miss Universe a fydd i’w gweld ar S4C ar 2 Chwefror am 9.00. Byddwn yn dod i’w hadnabod oddi ar y catwalks a’r byd ffasiwn.
Dywedodd Emma, sy’n 26 mlwydd oed, “Miss Universe yw’r freuddwyd ers ennill Miss Cymru yn 2015. I gyrraedd, mae angen ennill Miss Prydain Fawr ac mae honno ei hun yn gystadleuaeth fawr ac anodd, o ni wir ddim yn credu y byddwn yn cal fy newis. Roeddwn wedi tynnu allan dwy waith o’r blaen gan fod llais yn fy mhen yn dweud fy mod i ddim digon da.
“Mae’n fraint bod ymhlith y 90 o ferched profiadol a hyderus sy’n cystadlu am Miss Universe. Mae rhai ohonynt yn gyfreithwyr hawliau dynol a rhai yn athrawon. Dyna beth y ni mewn gwirionedd, merched cyffredin sydd eisiau gwneud gwahaniaeth. Ma’n hawdd anghofio pwer un person i neud pethau da. Does dim cattyness fel ma pobl yn feddwl. Dwi jyst yn ferch o Lanelli sy’n trio gwneud gwahaniaeth.”
Cyn cyrraedd America, bydd Emma’n gadael cefn gwlad sir Gâr am slymiau India, i ymweld â Stop Acid Attacks, un o’r elusennau ma hi’n ei chefnogi. Sut bydd y profiad yn effeitho arni?
Gyda pwyslais mawr ar godi arian, bydd enillydd Miss Universe yn cael eu cyflogi am flwyddyn, yn cael fflat yn Efrog newydd ac yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o waith dyngarol o’u dewis. Mae’r gystadleuaeth fawreddog, a sefydlwyd yn Long Beach, California yn 1952, yn cael ei wylio gan dros hanner biliwn o bobl ac yn cael ei ddarlledu mewn mwy na 150 o wledydd. Wrth brofi cyffro’r byd hudol, cawn hefyd weld tu ôl y llen a darganfod beth sy’n ysgogi Emma.
“Rwyf wedi cael fy siâr o frwydrau ar ôl bod mewn perthynas ddinistriol. Roedd yn amser anodd iawn – un nad ydwyf wedi gallu siarad amdano yn gyhoeddus o’r blaen. Yn sicr, mae wedi fy ngwneud yn benderfynol o lwyddo.
“Hap a damwain oedd dod mewn i’r byd ma pan o ni’n 16 mlwydd oed. O ni’n gwybod dim am pageants nes cael fy nghyflwyno gan Huw Fash. Nawr, dwi wrth fy modd yn trafod a ceisio newid y ffordd ma pobl yn feddwl amdanynt.
“Mae pethe wedi newid ers amser vital stats ar y screen a phan oedd merched prin yn siarad. Nawr, personoliaeth sy’n bwysig ac mae harddwch yn cyfri am llai na hanner y pwyntiau. Mae cymaint o bobl ifanc heddiw yn becso dim am y byd. Gall y beirniad ofyn am unrhyw bwnc cyfoes felly mae’n rhaid cael barn a gwybod sut i’w fynegi.”
Beth fydd ffawd Emma yn y gystadleuaeth fawreddog? A fydd y daith yn newid ei bywyd? A fydd hi’n dychwelyd i Lanelli fel Miss Universe? Beth fydd ymateb y dref petae hi’n ennill?
Bwriad DRYCH: Miss Universe yw herio agweddau a chynnig persbectif ffres o’r pasiant, beth mae’n ei symboleiddio, sut mae’r ornest wedi newid dros y blynyddoedd a sut mae ein barn o harddwch wedi esblygu. Mewn gwledd weledol, bydd cyfle unigryw i brofi pasiant mwya’r byd trwy lygaid y ferch gyffredin o Lanelli.
Add Comment