Home » Myfyrwyr yn croesawu’r flwyddyn newydd gyda hen draddodiadau
Cymraeg

Myfyrwyr yn croesawu’r flwyddyn newydd gyda hen draddodiadau

Screen Shot 2016-02-02 at 15.14.06
Hen Galan: Mae’n dal a welwyd mewn rhannau o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion

YN DDIWEDDAR, cymerodd myfyrwyr yng Ngholeg Ceredigion ran yn nathliadau traddodiadol yr Hen Galan (Hen Flwyddyn Newydd). 

Ymwelodd Bonni Davies o Gwm Gwaun ger Abergwaun ac ensemble gwerin traddodiadol Bois y Wlad â’r ddau gampws i siarad â myfyrwyr. Soniodd Bonni am ei phrofiadau o’i phlentyndod hyd at heddiw a’r gwahanol draddodiadau sydd yn dal i fod yn fyw. Canodd Bois y Wlad sawl cân yn ymwneud â’r Hen Galan a’r ffordd Gymreig o fyw er mwyn cyfleu naws a hwyl y dathlu.

Mae Hen Galan yn disgyn ar 13 Ionawr, marciwyd yr Hen Flwyddyn Newydd gan galendr Iŵl a oedd yn dal i gael ei ddefnyddio trwy Brydain hyd nes y cafodd calendr Gregoraidd ei gyflwyno ym 1752. Ar un adeg ystyriwyd yr Hen Galan yn bwysicach na’r Nadolig i drigolion Cwm Gwaun, gyda bwyd a diod arbennig yn cael ei baratoi ymhell ymlaen llaw.

Amlygodd Lewis, Brian ac Eurfyl, o Fois y Wlad weithgareddau amrywiol yn ardal Sir Benfro a hefyd y defnydd o’r Fari Lwyd mewn mannau eraill yng Nghymru, lle’r oedd grwpiau yn ymweld ag aelwydydd gyda gwisg ceffyl bwganaidd.

Cafodd y myfyrwyr gyfle i drochi eu hunain mewn traddodiadau diwylliannol gan gymryd rhan wrth ganu caneuon traddodiadol a samplu afalau taffi a baratowyd gan fyfyrwyr o adran arlwyo’r coleg.

“Mae trefnu sesiynau fel hyn yn allweddol o ran codi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg a’i thraddodiadau cyfoethog,” esboniodd Anna ap Robert, Ymgynghorydd y Gymraeg yng Ngholeg Ceredigion. “O ganlyniad, mae myfyrwyr a staff yn cael gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’n traddodiadau a diwylliant sy’n eu hannog i ymgysylltu’n gadarnhaol â’r iaith Gymraeg.

Author