Home » Pen-cogyddion i gynnig ysbrydoliaeth newydd ar gyfer Cig Oen ac Eidion
Cymraeg

Pen-cogyddion i gynnig ysbrydoliaeth newydd ar gyfer Cig Oen ac Eidion

Y cogydd arloesol Imran Nathoo gyda’i gebab Cig Oen Cymru PGI yn ei fwyty dros-dro diweddar yn y Dusty Knuckly, Caerdydd

WRTH arwain i fyny at Sioe Frenhinol eleni yn Llanelwedd, mae’r asiantaeth cig coch Hybu Cig Cymru (HCC) yn cydweithio gyda rhai o gogyddion mwyaf arloesol y wlad er mwyn arddangos rysetiau newydd ar gyfer Cig Oen ac Eidion o Gymru.

Gan ganolbwyntio ar safon uchel a hyblygrwydd cig Cymreig, bydd HCC yn cynnal nifer o arddangosfeydd coginio yn y Sioe a fydd yn dangos ystod eang o syniadau – prydau cyflym 20-munud, seigiau i’w coginio’n araf sy’ wedi eu ysbrydoli gan flasau rhyngwladol, a phrydau barbeciw. Bydd taflenni rysetiau ar gael am ddim i ymwelwyr i’r Sioe.

Seren theatr goginio HCC ar ddiwrnod cynta’r Sioe fydd Franceso Mazzei, cogydd-gyfarwyddwr bwyty Sartoria yn Mayfair, sydd wedi ymddangos yn fynych ar raglenni teledu fel Saturday Kitchen. Mae Francesco wrthi’n creu ‘Teml i fwyd Eidalaidd’ yn Llundain, a bydd yn arddangos prydau cig coch Cymreig gyda dylanwad o dde Ewrop. Bu’n gefnogwr brwd i Gig Oen Cymru PGI ers blynyddoedd fel aelod o Glwb Cig Oen Cymru HCC – grwp o gogyddion blaenllaw sydd wedi ymrwymo i ddefnyddio’r cig coch gwych yma yn eu bwytai.

Gwestai arbennig arall a serennodd ar y teledu yw Imran Nathoo – y deintydd o Gaerdydd a fu’n cystadlu ar Masterchef yn 2017. Yn ddiweddar, cydweithiodd Imran gyda HCC ar fenter bwyty dros-dro, gyda’i fersiwn unigryw o gebab cig oen yn ganolbwynt i bryd tri-chwrs godidog.

Defnyddiodd ysgwydd o Gig Oen Cymru PGI wedi ei rostio’n araf yr adeg honno, ac yn y Sioe Frenhinol bydd Imran yn dangos sut i goginio darn arall o gig oen sy’n llai cyffredin ond yn rhad ac yn flasus; ffiled o’r gwddf yn arddull tandoori gyda thatws masala, winwns crensiog a vinaigrette coriander.

“Rwy’ wedi bod eisiau ymweld â’r Sioe ers peth amser ond erioed wedi cael y cyfle tan nawr!” dywedodd Imran. “Galla i ddim aros i weld y sioe anferthol ac enwog yma.”

“Fel bachgen o’r ddinas rwy’n awyddus i wybod mwy am sut y mae’r bwydydd sy’n ein siopau yn cael eu creu, a chwrdd â’r bobl sy’n gweithio’n galed i’w gynhyrchu,” ychwanegodd. “Mae safon Cig Oen Cymru yn amlwg i bawb.”

Ymhlith y cogyddion eraill ar stondin HCC fydd cogydd ifanc y flwyddyn yng Nghymru, Steffan Davies, ynghyd ag aelodau eraill o dimau rhyngwladol Cymdeithas Gogyddol Cymru, ac Elwen Roberts o HCC, sy’n adnabyddus i wylwyr S4C oherwydd ei slot goginio ar ‘Prynhawn Da’. “Ein prif amcan yn y Sioe Frenhinol eleni yw arddangos faint mor hyblyg yw Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a phorc o Gymru,” meddai Elwen. “Gyda chymorth ein cogyddion gwadd, bydd stondin HCC yn wledd o flasau newydd, a bydd yno ysbrydoliaeth i bobl i drio ffyrdd newydd o goginio eu cig gartre.”

Author