Home » Eisteddfod yn cyhoeddi lein-yp Ty Gwerin 2017
Cymraeg

Eisteddfod yn cyhoeddi lein-yp Ty Gwerin 2017

‘Y Dylan Cymraeg’: Meic Stevens

MAE’R EISTEDDFOD yn falch o gyhoeddi manylion y Tŷ Gwerin eleni.

Ers iddo ymddangos gyntaf nôl yn 2014, mae’r Tŷ Gwerin wedi sefydlu’i hun fel un o ardaloedd mwyaf poblogaidd y Maes, gydag awyrgylch braf yr yurt ynghyd â cherddoriaeth werin ar ei orau’n gyfuniad perffaith.

Bydd tri o’r enwau mwyaf yn y sîn werin ac acwstig yn perfformio yn y Tŷ Gwerin am y tro cyntaf eleni. Mae Meic Stevens yn un o gerddorion traddodiadol mwyaf poblogaidd a dylanwadol Cymru, ac wedi arwain cerddoriaeth werin yn y wlad ers y 1960au. Yn aml, mae pobl yn ei alw’n ‘y Dylan Cymraeg’; mae gan ei ganeuon adlais seicadelig, mae’i dechnegau gitâr yn arbennig ac mae ganddo ddawn aruthrol i greu cerddoriaeth a geiriau a chaneuon sydd ymysg clasuron ein cyfnod.

Mae Dafydd Iwan ar flaen y gad yn y sîn Gymraeg ers y 60au cynnar, a daeth i amlygrwydd drwy’i ganeuon gwladgarol a’i rôl flaenllaw yn ymgyrchoedd iaith y 60au a’r 70au. Mae’i ganeuon, fel rhai Meic Stevens, yn glasuron, ac er bod Dafydd wedi ymuno ag Ar Log am berfformiad byrfyfyr o’r anthem ‘Yma o Hyd’ yn y Tŷ Gwerin llynedd, dyma fydd ei berfformiad ‘swyddogol’ cyntaf!

Mae gan Mynediad am Ddim 40 mlynedd o brofiad perfformio, ac mae’n sicr y bydd eu dehongliadau harmonïol o ganeuon gwerin hen a newydd yn un o uchafbwyntiau’r rhaglen eleni.

Un arall o’r uchafbwyntiau’n ddi-os, fydd set gyda’r hwyr arbennig iawn gan Cowbois Rhos Botwnnog, a fydd yn perfformio ar ôl iddi dywyllu, a bydd yr yurt deniadol yn cael ei drawsnewid i fod yn lleoliad hudol – gyda goleuadau ‘tylwyth teg’ bychain. Bydd y lleoliad a’r perfformiad yn sicr o wneud hon yn noson i’w chofio.

Trefnir Tŷ Gwerin gan yr Eisteddfod Genedlaethol, ac meddai Sioned Edwards, sy’n gyfrifol am y prosiect, “Mae rhaglen eleni’n un o’r cryfaf rydym wedi’i chael. Rydym wedi gweithio’n agos gyda gwirfoddolwyr lleol o’r sîn werin Gymraeg ynghyd â cherddorion ac wedi creu rhaglen a fydd yn apelio at nifer fawr o bobl, gobeithio. Rydw i’n edrych ymlaen yn arbennig am y sesiwn ar ganu serch sydd wedi’i churadu gan Gwenan Gibbard. Mae cymaint o’n caneuon serch yn cael eu canu o safbwynt y dyn, felly fe fydd yn ddiddorol iawn gweld lein-yp cwbl fenywaidd.

“Sesiwn arall rwy’n edrych ymlaen ati yw’r Frwydr Shantis Môr. Bydd tîm o Fôn yn brwydro yn erbyn tîm o Ben Llŷn, gan berfformio shantis lleol – ac mae’n sicr o fod yn frwydr go wahanol. Mae Dewi Pws yn rhan o dîm Pen Llŷn, felly pwy ag ŵyr beth ddigwyddith!

“Wrth gwrs, mae’r perfformiadau poblogaidd eraill i gyd yn mynd i fod yn y Tŷ Gwerin. Bydd Jamie Smith’s MABON a Calan, sydd newydd ryddhau albwm gwych newydd, ‘Solomon’ yn dychwelyd atom yn dilyn perfformiadau hynod boblogaidd y llynedd. A fyddai’r Eisteddfod ddim yn Eisteddfod hen berfformiad gan Bob Delyn a’r Ebillion. Rhywbeth arall sy’n dychwelyd eleni – i groeso mawr rwy’n siŵr – yw’r Stomp Cerdd Dant, gydag Arfon Gwilym yn ei guradu eto eleni. Os nad ydych chi wedi bod i’r Stomp Cerdd Dant erioed, dewch! Ond dewch yn ddigon cynnar gan ei bod yn llenwi’n gyflym. Nid dyma’r lle i rai cul eu meddwl, ond mae’n sicr o wneud i chi lanna’ chwerthin. Does dim byd wedi gwneud cymaint i newid delwedd cerdd dant dros y blynyddoedd diwethaf credwch chi fi!

“Mae ‘na yoga – ac i’r rheiny sy’n teimlo ychydig yn fwy egnïol – cadw’n heini drwy glocsio, neu ‘Clogsffit’ i roi’r enw cywir iddo fo. Rwy’n gwybod ei fod yn swnio’n ystrydebol, ond mae ‘na rywbeth i bawb yn y Tŷ Gwerin

online casinos UK

Author