Home » Perfformiad cyntaf o ‘Y Pêr Ganiedydd’
Cymraeg

Perfformiad cyntaf o ‘Y Pêr Ganiedydd’

CYNHALIWYD cyngerdd Nadolig blynyddol yr Is-Ganghellor ar gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar.

Roedd y cyngerdd hwn yn cynnwys y perfformiad cyntaf o – ‘Y Pêr Ganiedydd’ – darn newydd o gerddoriaeth gan Eilir Owen Griffiths er mwyn dathlu 300 mlwyddiant geni William Williams Pantycelyn. Gyda pherfformiadau gan fyfyrwyr o Academi Llais Ryngwladol Cymru y Brifysgol (WIAV); Myfyrwyr BA Perfformio, y Tenor a’r cyn-fyfyriwr Rhodri Prys Jones ynghyd â’r Sinffonieta Brydeinig, roedd y cyngerdd hefyd yn cynnwys ystod o glasuron y Nadolig.

Mae’r cyngerdd yn ddigwyddiad Nadoligaidd hyfryd sydd bellach yn un o brif ddathliadau’r Ŵyl o fewn y Brifysgol. Mae’n rhoi llwyfan i fyfyrwyr ddangos eu doniau tra hefyd yn rhoi’r cyfle i’r gynulleidfa gael ei hudo gan gerddoriaeth wych o dan arweiniad Eilir Owen Griffiths, Darlithydd Cerddoriaeth gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

“Mae cyngerdd Nadolig blynyddol yr Is-Ganghellor yn gyfle gwych i’r myfyrwyr i berfformio gydag un o gerddorfeydd proffesiynol mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig ac i dynnu sylw at y cyfoeth o dalent sydd gennym ni yma yn y Brifysgol,” meddai Eilir, Cyfarwyddwr Canolfan Berfformio Cymru.

“Yn ystod y noson cafodd y gynulleidfa gyfle i glywed y ‘Pêr Ganiedydd’ – darn yr wyf wedi’i gyfansoddi i nodi pen-blwydd 300 mlynedd ers genedigaeth yr emynydd William Williams, Pantycelyn. Nid oes amheuaeth bod William Williams, Pantycelyn yn un o’n ffigurau mwyaf amlwg nid yn unig oherwydd ei gyfraniad at ddiwygiad y Methodistiaid a’r 900 emyn a ysgrifennodd ond hefyd ei gyfraniad tuag at fywyd diwylliannol ac addysgol a datblygiad Cymru. Roeddwn yn awyddus i dalu fy nheyrnged fy hun ac roeddwn yn falch iawn bod y darn hwn o gerddoriaeth wedi’I berfformio am y tro cyntaf yn ystod y cyngerdd hwn.”

Bu rhai o fyfyrwyr Academi Llais Ryngwladol Cymru yn canu ystod o ganeuon Nadolig clasurol gyda myfyrwyr o’r cwrs BA perfformio, yn canu detholiad o ganeuon o glasur Stephen Sondheim, Sweeney Todd

Author

Tags