Home » Prosiect y Parc Cenedlaethol yn cysylltu twristiaeth â natur
Cymraeg

Prosiect y Parc Cenedlaethol yn cysylltu twristiaeth â natur

MAE SAITH o fusnesau yn Sir Benfro sy’n ymddiddori mewn bywyd gwyllt wedi gwella profiadau ymwelwyr a bioamrywiaeth ar eu heiddo drwy gynnal prosiectau cadwraeth fel rhan o brosiect peilot Cysylltiadau Naturiol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Fel rhan o’r prosiectau gwnaed arolwg ecolegol o dir pob busnes ac ysgrifennwyd adroddiad ar yr arolwg hwnnw. Roedd yr adroddiad yn argymell ffyrdd o wella’u tir a’u hadeiladau ar gyfer bywyd gwyllt, pethau fel plannu coed a dolydd, gosod blychau pathewod a phlygu gwrychoedd.

Meddai Swyddog Bioamrywiaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Sarah Mellor: “Bu’n braf iawn cael gweithio gyda busnesau sy’n awyddus i weithredu i helpu bywyd gwyllt ar garreg eu drws.

“Roedd pob adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am brofiadau a safleoedd bywyd gwyllt gerllaw’r busnes, gan esgor ar becyn gwybodaeth delfrydol y gellid ei rannu’n uniongyrchol â’r ymwelwyr.”

Ymysg y busnesau wnaeth gymryd rhan ar draws y sir yr oedd Hostel Ieuenctid Maenorbŷr, Tyriet Farm (Bluestone Brewery), Gwersyll Brandy Brook, Gwesty Penrhiw, Castell Pictwn, Parc Gwyliau Llwyngwair Manor a May Cottage.

Bu’r gwirfoddolwyr yn Tyriet Farm yn adeiladu gwâl i ddyfrgwn, tra bu gwaith plannu coed a phlygu gwrychoedd yn mynd rhagddo yng ngwersyll Brandy Brook. Aeth Gwesty Penrhiw ati i wella’u dôl wair drwy hau hadau Cribell felen, aeth Castell Pictwn ati i ddathlu eu dôl gyda bwrdd dehongli newydd a chafodd Parc Gwyliau Llwyngwair Manor offer a hyfforddiant i gynnal sesiynau archwilio yn yr afon a’r llyn i ymwelwyr.

Meddai Martin Allen yn Hostel Ieuenctid Maenorbŷr: “O ddarllen yr adroddiad fe wnaethom sylweddoli y gallem hyrwyddo bywyd gwyllt diddorol ar garreg ein drws, yn ogystal â’r eitemau drud, fel teithiau cychod a theithiau i’r ynysoedd.”

Cafodd treial Cysylltiadau Naturiol, a ddaeth i ben yn llwyddiannus fis diwethaf, ei ariannu gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, sy’n cael ei gweinyddu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y gronfa a sut i ymgeisio, ewch i www.pembrokeshire.wales/sdf.

Author

Tags