Home » Pwyllgor Cynulliad yn galw am ‘atebion arloesol’
Cymraeg

Pwyllgor Cynulliad yn galw am ‘atebion arloesol’

DYLAI Llywodraeth Cymru ystyried sicrhau bod cymorthdaliadau cyhoeddus i dirfeddianwyr fel ffermwyr yn amodol, yn y dyfodol, ar iddynt ganiatáu mastiau ffôn symudol ar eu tir, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae adroddiad newydd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ffyrdd arloesol o gysylltu’r pedwar y cant olaf o Gymru sydd heb gyswllt band eang, ac i ystyried diwygio’r drefn gynllunio i wella’r gwasanaeth ffonau symudol ledled y wlad.

Dyma rai o argymhellion eraill yr adroddiad:

  • Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu cynllun ecwiti neu grant ad-daladwy i ganiatáu i weithredwyr bach lenwi’r bylchau yn y rhwydwaith band eang
  • Dylai’r pedwar y cant o gymunedau ac unigolion mwyaf anodd eu cyrraedd, sy’n byw heb gyswllt band eang, gael eu cynnwys yn y broses fel bod atebion yn cael eu teilwra i’w hanghenion
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio’r drefn gynllunio i ganiatáu ar gyfer gosod mastiau telathrebu sy’n gwasanaethu ardal ddaearyddol ehangach
  • Mae angen i OFCOM ddefnyddio ei holl bwerau rheoleiddio i gyflawni ei darged o sicrhau signal ar gyfer ffonau symudol dros 100 y cant o’r wlad a dylai hyn fod yn amod lleiaf mewn arwerthiannau ar gyfer yr hawl i drosglwyddo yn y dyfodol

Dywedodd Russell George, Cadeirydd y Pwyllgor: “Nid rhywbeth ‘braf i’w gael’ yw cysylltedd bellach yn ein bywydau bob dydd; i lawer o bobl a busnesau yr ydym wedi siarad â nhw yn ystod ein hymchwiliad, mae bellach yn cael ei ystyried yn wasanaeth hanfodol – fel trydan.

“Mae tirlun a dosbarthiad poblogaeth Cymru yn cyflwyno heriau mewn byd lle mai grymoedd y farchnad sy’n pennu cwmpas gwasanaeth band eang a ffonau symudol.

“Er bod cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer band eang, Cyflymu Cymru, a gyflwynwyd gyda BT, wedi cysylltu nifer fawr o bobl, mae ardaloedd o hyd nad yw wedi llwyddo i’w cyrraedd, ac mae’r un peth yn wir yn achos ffonau symudol.

“Bydd ein hargymhellion yn cynorthwyo Cymru i ddatblygu seilwaith digidol sydd mor gyflym ac mor ddibynadwy â rhannau eraill o’r DU, ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”

Author