Home » Cyn-brentis yn annog pobl ifanc i ystyried llwybr galwedigaethol
Cymraeg

Cyn-brentis yn annog pobl ifanc i ystyried llwybr galwedigaethol

MAR CYN-BRENTIS Tŷ’r Cwmnïau yn annog pobl ifanc o Fôn i Fynwy i ystyried llwybrau galwedigaethol i waith yn SkillsCymru, ffair yrfaoedd fwya’r wlad.

Cwblhaodd Ethan John, 18 oed o’r Barri, ei gwrs prentisiaeth yn gynharach yr haf hwn, ac erbyn hyn, mae’n gweithio’n llawn amser fel swyddog gweinyddol cyfathrebu mewnol yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Bydd yn mynychu SkillsCymru er mwyn hyrwyddo gyrfaoedd gyda Tŷ’r Cwmnïau, yn ogystal ag esbonio manteision prentisiaethau i bobl ifanc eraill.

Noddir SkillsCymru, a gynhelir yn Venue Cymru Llandudno ar 4 a 5 Hydref, a Motorpoint Arena Caerdydd ar 11 ac 12 Hydref, gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, a disgwylir iddo ddenu dros 10,000 o ymwelwyr.

Meddai Ethan: “Doedd gen i ddim clem beth oeddwn i am ei wneud ar ôl gadael ysgol. Dechreuais astudio Safon Uwch, heb unrhyw gynllun pendant. Roedd fy rhieni’n disgwyl i mi fynd i’r brifysgol fel fy chwaer, ond yn hytrach nag ymrwymo i dair blynedd o astudio, penderfynais fynd ar drywydd galwedigaethol a des o hyd i gwrs prentisiaeth yn Nhŷ’r Cwmnïau.

“Astudiaethau busnes oedd fy hoff bwnc yn yr ysgol, felly roedd gen i ddiddordeb naturiol yn Nhŷ’r Cwmniau. Dechreuais sylweddoli cymaint o swyddi gwahanol oedd ar gael. Apêl fwyaf y brentisiaeth i mi oedd ei bod yn hyfforddiant mor gynhwysfawr. Roedd yn golygu y gallwn i ddysgu pob math o rolau gwahanol, yn cynnwys gwasanaethau cwsmeriaid, digwyddiadau, cyfathrebu mewnol, dylunio a gweinyddu. Erbyn diwedd fy mhrentisiaeth, roedd gen i syniad tipyn cliriach o beth hoffwn i wneud fel gyrfa.

“Ar ôl i mi gwblhau’r brentisiaeth, gwnes gais am swydd gyda Tŷ’r Cwmniau, ac erbyn hyn, dw i’n gweithio fel swyddog cyfathrebu. Dw i’n treulio’r rhan fwyaf o’r dydd yn creu dyluniadau graffig, rhywbeth na wnes i erioed feddwl y byddwn i’n dda yn ei wneud. Mae’n golygu fy mod i wedi dysgu sgiliau hollol newydd – sut i wneud i rywbeth sy’n edrych yn dda, ysgrifennu copi a defnyddio meddalwedd fel InDesign.

“Dw i’n edrych ymlaen at gael siarad â phobl ifanc eraill yn SkillsCymru, oherwydd dw i’n siŵr y bydd llawer yn yr un sefyllfa â fi; ddim yn gwybod beth i’w wneud ar ôl gorffen yn y coleg. Yn aml, mae pobl ifanc yn teimlo taw’r unig ddewis yw mynd i brifysgol neu’n syth i weithio, ond hoffwn i ddangos bod prentisiaeth yn gyfuniad da o’r ddau.”

Meddai Sara Allen, uwch-reolwr recriwtio Tŷ’r Cwmnïau: “Mae ein rhaglen brentisiaeth yn bwysig i ni yn Nhy’r Cwmniau, mae’r llwybr yn agored i bawb o bob oed – nid dim ond rhai sy’n gadael ysgol yn unig. Mae gennym brentisiaethau mewn pob math o swyddi, fel gwasanaethau cwsmeriaid, cyllid, Adnoddau Dynol a chyfathrebu.

“Mae prentisiaeth gyda Tŷ’r Cwmniau yn sicrhau rhwydwaith cymorth parhaus i ymgeiswyr yn ogystal â chyfleoedd datblygu i ennill cymwysterau at y dyfodol. Mae Ethan yn enghraifft wych o hyn, ar ôl cwblhau ei brentisiaeth dwy flynedd mewn cwta ddeunaw mis, ennill cymhwyster NVQ lefel 3 mewn rheoli’r cyfryngau cymdeithasol a mynd ymlaen i gael swydd barhaol yn ein hadran gyfathrebu.”

online casinos UK

Ymhlith y cwmnïau eraill fydd yn arddangos yn y digwyddiad a gaiff ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, fydd: GIG Cymru, ALDI, Celtic Manor Resort, Wales and West Utilities a Horizon Nuclear Power.

Meddai Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: “Mae profiad Ethan yn dangos mai prentisiaethau yw’r dewis gorau i rai, ac mae digwyddiadau fel SkillsCymru yn helpu pobl ifanc eraill i sylweddoli hyn.

“Mae hi mor bwysig i fyfyrwyr ryngweithio â phobl o’r un oed â nhw, yn ogystal â derbyn cyngor gyrfaol gan golegau a rhwydweithiau cymorth mewn ysgolion. Mae clywed yn uniongyrchol gan Ethan sut mae prentisiaeth wedi gweddnewid ei obeithion gyrfaol a chyfleoedd yn y dyfodol, yn ffordd wych o wneud hyn.

Cefnogir SkillsCymru gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

I gael rhagor o wybodaeth am SkillsCymru, ewch i www.skillscymru.co.uk

Author