Home » Pwysigrwydd hamdden awyr agored yng Nghymru
Cymraeg

Pwysigrwydd hamdden awyr agored yng Nghymru

Pobl fwynhau’r amgylchedd naturiol, cadw’n heini ac iach (pic. Andrew Rendell)

MAE CYFOETH Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n dangos sut mae awyr agored Cymru yn cael ei ddefnyddio’n eang ac yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr gan bobl yng Nghymru.

Yn seiliedig ar ddata o Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru CNC, mae’n darparu crynodeb o’r darlun cymhleth o weithgareddau awyr agored yng Nghymru rhwng 2008 a 2015.

Mae’r adroddiad yn brawf o’r manteision sylweddol mae hamdden awyr agored yn ei gyflwyno i economi Cymru, gyda £5.6 biliwn yn cael ei wario ar ymweliadau awyr agored gan bobl sy’n byw yng Nghymru – cyfartaledd o £12.74 yr ymweliad.

Mae’n dangos sut mae hamdden awyr agored yn cyfrannu ‘n sylweddol at lefelau gweithgarwch corfforoI yng Nghymru, gydag ymarfer corff a’i fanteision iechyd cysylltiedig yn cael ei ystyried i fod y cymhelliant pwysicaf.

Hefyd mae’r adroddiad yn datgelu faint mae pobl yn gwerthfawrogi natur. Dywedodd bron hanner o’r rhai a holwyd eu bod yn pryderu am golli bioamrywiaeth yng Nghymru, a’r mwyafrif yn cymryd o leiaf un cam i helpu gwarchod yr amgylchedd.

Dywedodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae’r adroddiad newydd hwn yn dangos pam mae angen inni barhau i weithio i roi cyfleoedd i bobl wella eu hiechyd meddyliol a corfforol drwy weithgareddau yn yr awyr agored.

“Mae gan Gymru amgylchedd naturiol gwych i bawb i’w fwynhau, tra hefyd yn cyfrannu i’r economi lleol a gwella iechyd y genedl.

“Rydym yn gofalu am lawer o safleoedd prydferth a hygyrch ledled Cymru lle gall pobl fwynhau’r amgylchedd naturiol, cadw’n heini ac iach.“

Mae’r adroddiad yn dangos sut mae cymryd rhan wedi newid dros amser, gan gynnwys y gweithgareddau mae pobl yn ei fwynhau a pham, a’r lleoedd mae pobl yn hoffi ymweld â hwy fwyaf.

Gweithgareddau awyr agored sydd fwyaf poblogaidd, gyda 90 y cant yn ymweld o leiaf unwaith y flwyddyn, a mwy na hanner yn dymuno ymweld â hwy yn amlach.

online casinos UK

Dros y blynyddoedd mae’r dewis o weithgareddau wedi newid ychydig, ond mae cerdded yn dal i fod yn weithgaredd awyr agored mwyaf poblogaidd gyda dros dri chwarter o bobl yn mwynhau mynd am dro o amgylch y parc, crwydro coedwigoedd neu heicio yn y mynyddoedd.

Rhedeg yw’r unig weithgaredd sydd wedi cynyddu’n gyson dros y blynyddoedd gyda mwy na chwarter o oedolion yn cymryd rhan.

Mae beicio hefyd yn boblogaidd, gan barhau i ddenu bron i chwarter o bobl.

Mae’r mannau mae pobl yn ymweld ag yn cynnwys beth sydd ar stepen ein drws ynghyd â thirweddau eiconig ac arfordir Cymru.

Y lleoedd mwyaf poblogaidd i ymweld â hwy yw parciau a choetiroedd lleol, tra bod pobl yn hoffi mynd i’r mynyddoedd, traethau a’r arfordir yn amlach.

Author