Home » Rhybudd i beidio â gwaredu sbwriel mewn safleoedd ailgylchu
Cymraeg

Rhybudd i beidio â gwaredu sbwriel mewn safleoedd ailgylchu

Does dim esgus dros dipio anghyfreithlon unrhyw le yn Sir Gaerfyrddin – dyna’r neges wrth i bobl gael eu rhybuddio i beidio â gwaredu eu sbwriel mewn safleoedd ailgylchu cymunedol neu gallant wynebu dirwy.

Mae gadael unrhyw fagiau neu eitemau eraill ar y llawr mewn safleoedd ailgylchu yn cael ei ystyried yn dipio anghyfreithlon ac os caiff preswylwyr eu dal yn gwaredu eu gwastraff, gallant gael dirwy ddiderfyn a/neu hyd at bum mlynedd yn y carchar.

Mae swyddogion y Cyngor yn monitro safleoedd ailgylchu ledled y sir yn barhaus. O ganlyniad, maent wedi rhoi 24 o hysbysiadau cosb benodedig yn amrywio o £75 i £350 ers dechrau’r flwyddyn i bobl sy’n gadael eu gwastraff yn anghyfreithlon ar y safleoedd.

Mae eitemau sy’n cael eu gwaredu yn amrywio o nwyddau trydanol i fagiau du.

Drwy gydol yr argyfwng Coronafeirws, parhaodd casgliadau gwastraff ac ailgylchu o dŷ i dŷ ynghyd â’r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus y telir amdano ar gyfer hyd at dair eitem fwy.

Ailagorwyd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref o 26 Mai gyda system apwyntiad yn unig. Mae apwyntiadau ar gael yn rhwydd a gall preswylwyr fynd i’r canolfannau bob saith diwrnod i gael gwared ar wastraff domestig os bydd angen.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i ofalu am ein sir. Rydym yn deall bod ein cymunedau, fel ninnau, yn grac ac yn teimlo’n rhwystredig oherwydd tipio anghyfreithlon, a byddwn bob amser yn ceisio dod o hyd i’r rhai sy’n gyfrifol. Mae tipio anghyfreithlon nid yn unig yn edrych yn salw ond mae’n denu fermin i’r ardal.

“Rydym yn deall bod canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref wedi bod ar gau dros dro yn ystod COVID, fodd bynnag, nid yw hynny’n esgusodi’r math hwn o ymddygiad anghyfreithlon ac mae’r canolfannau wrth gwrs ar agor erbyn hyn felly does dim esgusodion.

“Efallai nad yw rhai preswylwyr yn ymwybodol eu bod yn tipio’n anghyfreithlon, ond os gadewir bagiau neu eitemau wrth ochr biniau, waeth a ydynt wedi mynd â’r eitemau i safle ailgylchu cymunedol, mae’n dal i fod yn dipio anghyfreithlon.

“Mae llawer o bobl wedi cael eu dal yn gwaredu sbwriel ac wedi wynebu dirwy o ganlyniad i hynny ac mae swyddogion yn parhau i fonitro’r safleoedd hyn ledled y sir. Gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol a rhowch wybod i ni am unrhyw achosion o dipio anghyfreithlon y byddwch yn dod ar eu traws er mwyn i ni allu ymchwilio i’r achos.”

online casinos UK

I drefnu apwyntiad yn un o bedair canolfan ailgylchu’r sir ewch i www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/ailgylchu-biniau-a-sbwriel/canolfannau-ailgylchu/

I roi gwybod am dipio anghyfreithlon ewch i www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/ailgylchu-biniau-a-sbwriel/sbwriel/tipio-anghyfreithlon/

Author