Home » Sir Gaerfyrddin yn elwa ar fand eang newydd
Cymraeg

Sir Gaerfyrddin yn elwa ar fand eang newydd

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi croesawu penderfyniad Openreach i gyflwyno cynllun band eang ar raddfa fawr fel cam cadarnhaol tuag at sicrhau bod mwy o gymunedau a busnesau yn cael eu cysylltu’n digidol.

Mae Openreach, sy’n rhan o Grŵp BT, wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi nifer o ddatblygiadau ffibr llawn cyflym iawn ledled y sir, ac mae disgwyl i lawer o ardaloedd elwa ar hynny.

Ymhlith yr ardaloedd fydd yn elwa bydd Abergwili, Bronwydd, Porth Tywyn, Caerfyrddin, Cwm-ffrwd, Capel Hendre, Carmel, Cwmgwili, Cefneithin, Cross Hands, Croesyceiliog, Drefach, Yr Hendy, Idole, Llanedi, Llanon, Penygroes, Pen-bre a’r Tymbl.

Mae’r Cyngor Sir wedi ymrwymo i gefnogi gwell cysylltedd digidol ledled Sir Gaerfyrddin, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae’r gwasanaethau digidol mewn rhai cymunedau’n wael iawn, neu ddim ar gael o gwbl.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor, a’r Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau, eu bod yn croesawu buddsoddiad Openreach ac yn gobeithio y byddai’n ysgogi datblygiadau pellach mewn ardaloedd lle mae ei angen fwyaf.

Dywedodd y Cynghorydd Dole, “Rydym yn deall bod Sir Gaerfyrddin ymhlith y rheiny fydd yn elwa fwyaf ar fuddsoddiad Openreach wrth i fand eang ffibr gael ei gyflwyno i 19 o’n cymunedau, ac mae hyn o ganlyniad uniongyrchol i’n lobïo parhaus dros wella cysylltedd yn ein cymunedau.”

“Does dim gwadu’r ffaith fod hyn yn newyddion da, fodd bynnag, mae angen buddsoddi’n helaeth mewn ardaloedd eraill a byddwn yn parhau i weithio y tu ôl i’r llenni i sicrhau eu bod yn cael yr un chware teg.

Ychwanegodd y Cynghorydd Campbell: “Rydym yn ddiolchgar i Openreach am fuddsoddi yn Sir Gaerfyrddin. Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd eraill yn dilyn eu harweiniad, a byddem yn croesawu trafodaethau i ysgogi ein hymrwymiad i gefnogi mwy o gymunedau, yn enwedig ein cymunedau gwledig, i elwa ar seilwaith digidol da.

“Gyda mwyfwy o wasanaethau yn mynd ar-lein, mae cael mynediad i fand eang o ansawdd da bellach yn angenrheidiol i gartrefi a busnesau.”

Mae Sir Gaerfyrddin ymhlith 5 Sir yng Nghymru i elwa ar fuddsoddiad Openreach.

online casinos UK

Dywedodd Connie Dixon, Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach Cymru: “Dyma newyddion gwych i bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Mae hefyd yn brawf arall o gyfraniad Openreach o ran helpu ardaloedd gwledig, ac mae wedi chwarae rhan allweddol ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bron i 95 y cant o Gymru fand eang cyflym iawn.

“Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn gam tuag at sicrhau rhwydwaith ffibr llawn cyflymach a fydd hefyd yn fwy dibynadwy ac yn ddiogel ar gyfer y cenedlaethau nesaf.”

Author