Home » Y Gêm Olaf
Cymraeg

Y Gêm Olaf

Mae diwedd gyrfa cain mewn rygbi: Mike Phillips yn dweud hwyl fawr

AR ÔL gyrfa broffesiynol yn ymestyn 14 mlynedd, fe ddaeth amser Mike Phillips ar y cae rygbi i ben yn ddiweddar wrth iddo chwarae ei gêm olaf dros ei dîm, Sale Sharks. Wedi 99 cap a 10 cais rhyngwladol, 2 daith y Llewod a 3 Camp Lawn, mae’r amser wedi dod iddo rhoi’r bŵts o’r neilltu.

Cawn gip ar 24 awr olaf gyrfa gyffrous a lliwgar Mike wrth iddo ffarwelio â’r gamp, yn y rhaglen ddogfen Mike Phillips: Y Gêm Olaf, nos Sadwrn 20 Mai ar S4C.

Stadiwm AJ Bell ym Manceinion oedd y lleoliad ar gyfer y gêm olaf ac mi oedd yr achlysur yn un chwerw-felys i gyn fewnwr Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, wrth i’w dîm gael buddugoliaeth wych dros Bath.

Dywedodd Mike, “Roedd o’n ddiwrnod emosiynol iawn ac fe aeth e’n eitha’ clou. Daeth fy nheulu a’n ffrindiau lan i wylio, ac roedd e’n grêt cael nhw yno. Aeth y gêm yn dda hefyd felly roeddwn i’n hapus iawn gyda sut aeth y diwrnod.

“Mae’r corff yn dweud wrtha i fod yn rhaid i mi bennu ac nawr yw’r adeg iawn. Fi ‘di ‘neud bob dim roeddwn i moyn gwneud; fi ‘di chwarae dros Gymru a’r Llewod. Fi ‘di cael send off dda gan y Sale Sharks a fi’n hapus iawn ‘da hynny. Ond nawr rwy’n edrych ymlaen at y dyfodol.”

Mae’r mab fferm o Fancyfelin wedi cael gyrfa liwgar ar, ac oddi ar, y cae ac wedi creu penawdau ar dudalennau blaen y papurau newydd yn ogystal â’r rhai ôl. Felly a fydd e’n gweld eisiau rhai agweddau o’i fywyd fel un o brif arwyr chwaraeon Cymru dros y degawd diwethaf?

“Mae gan chwaraewyr rygbi proffesiynol ffordd o fyw breintiedig iawn a bydda i’n siŵr o’i methu,” meddai Mike. “Y laughs a’r craic ti’n cael yn ymarfer bob dydd a bod yn rhan o dîm. Ti’n mynd i’r gwaith bob dydd ond nid gwaith yw e rili. Ti’n gweithio’n galed wrth gwrs, ond ti’n cael lot o sbort a ti’n mynd ar y cae ymarfer ac i gemau gyda dy ffrindiau.

“Ond mae o wedi bod yn intense dros y blynyddoedd. Mae’r tymhorau mor hir ac roeddwn i wastad bant ar daith ryngwladol yn ystod yr haf, i wahanol rannau o’r byd. Fydda i ddim yn gweld eisiau’r sesiynau hyfforddi caled. Ar y cae ymarfer ac wrth chwarae mae’n rhaid i ti wthio dy hunan i’r limit bob dydd a fi ‘di ‘neud e ers blynydde. Nawr fi’n edrych ymlaen at ymlacio a mwynhau fy mywyd.”

Felly, yn 34 oed ac yn edrych am swydd ‘arferol’, tybed i ba gyfeiriad aiff gyrfa Mike – i’r byd modelu efallai?

“Na, sa i’n credu, dim o gwbl. Fi’n siarad efo lot o bobl am yr opsiynau sydd gen i. Yn sicr, hoffwn i aros yn y gêm mewn rhyw ffordd. Fi’n siŵr bydda i’n gwneud tipyn bach o hyfforddi a gwaith yn y cyfryngau, ond does dim cynllun pendant eto. Y peth cyntaf dwi am ‘neud yw ymlacio a threulio amser gyda ffrindiau a theulu.”

online casinos UK

Author