Home » Y gorffennol yn dod yn fyw drwy hen ffilmiau
Cymraeg

Y gorffennol yn dod yn fyw drwy hen ffilmiau

“MAE hen lun yn medru dweud llawer, ond mae hen ffilm yn medru dod â’r gorffennol yn fyw” meddai’r Prifardd ac Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.

Bob wythnos ar Ffilmiau Ddoe, mae criw hwyliog o gyflwynwyr a gwestai neu gyfwelai yn gwylio detholiad o’r ffilmiau sy’n rhan o gasgliad Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Detholiad o ffilmiau sy’n cofnodi digwyddiadau cymdeithasol, ffilmiau personol am deuluoedd, a thystiolaeth weledol o sut mae Cymru wedi newid dros y blynyddoedd. Yr wythnos hon, Myrddin ap Dafydd fydd yn cael y fraint o dyrchu yn y casgliad rhyfeddol hwn, a hynny yng nghwmni ei westeion Peredur Lynch a Beryl Vaughan.

Bydd Peredur Lynch, un o draethwyr huawdl y Babell Lên, yn cymryd golwg ar ffilmiau o Eisteddfodau Cenedlaethol ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys clip o’r Brifwyl yn Aberystwyth yn 1916, ffilm ryfeddol o Eisteddfod Machynlleth yn 1937, cofnod yr artist Charles Tunnicliffe o seremoni cyhoeddi Pwllheli 1954, a chlipiau o enwogion ar y Maes yn Y Drenewydd yn 1965.

“Da’ch chi’n gweld pobl yn rhythu ar gamera sy’n troi o’u blaenau, ac weithiau dan ni’n teimlo nad ydi pawb yn siŵr iawn sut mae ymddwyn o flaen y lens” sylwa Myrddin, wrth wylio clip o Eisteddfod Y Drenewydd 1965.

Bywyd cefn gwlad fydd yn mynd â bryd Beryl Vaughan, a chawn ymweld â Ffair Dalis 1914, sef ffair geffylau enwog Llanbedr Pont Steffan, diwrnod cneifio yn Y Foel, golygfeydd ardal Penderyn a Bannau Brycheiniog, a Choleg Hyfforddi Felinfach.

“Mae rhyw hud a hiraeth mewn gweld ein gorffennol yn dod yn fyw o flaen ein llygaid” meddai Myrddin. “Mae’n rhoi cyfle i ni fynd yn ôl yno, wel am sbel fach beth bynnag. Diolch bod ganddon ni drysorfa o archif yma yng Nghymru, a rheiny’n cael eu gwarchod a’u rhannu.”

Author