CYFLWYNWYD Cynllun Perfformiad Blynyddol Cyngor Sir Ceredigion i’r Cyngor ar 24 Hydref 2013. Mae’r Cynllun yn rhoi golwg gytbwys o berfformiad y Cyngor a’i gymharu â pherfformiad awdurdodau lleol Cymreig eraill.
Yn 2012-13, bu gwelliant o ran 52% o’r mesurau a ddefnyddiwyd i asesu a chymharu perfformiadau llywodraeth leol.
Er bod heriau ariannol yn y sector cyhoeddus yn ei gwneud yn anodd iawn i’r Cyngor, mae wedi llwyddo i gyflwyno gwasanaethau o ansawdd ar adeg pan mae adnoddau yn prinhau. Dengys y Cynllun bod y Cyngor wedi llwyddo i weld cynnydd gyda chwech o’r Amcanion Gwella a bennwyd.
Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, bod yr adroddiad yn dangos gwelliannau sylweddol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol 2011 – 2012.
“Yr ydym wedi gwneud arbedion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o £3.57 miliwn ac yr ydym wedi gwneud cynnydd gyda sawl gwasanaeth. Mae hyn yn adlewyrchu’r modd y mae’r Cyngor yn newid er mwyn bod yn fwy effeithlon ac effeithiol heb golli golwg ar anghenion dinasyddion Ceredigion. Yr oeddwn yn hynod falch cael derbyn cadarnhad Llywodraeth Cymru ein bod wedi derbyn 100% o’r Grant Cytundebau Canlyniadau.”
Mae’n rhaid i bob cyngor yng Nghymru gyhoeddi adroddiad blynyddol ar ei berfformiad yn ystod y flwyddyn flaenorol, a’r Amcanion Gwella ar gyfer y flwyddyn gyfredol.
Mae gwybodaeth ynglŷn â’r cynlluniau hyn a chrynodeb gweithredol ar gael ar wefan y Cyngor
Add Comment