Home » Cynllun Cyfnewid Ieuenctid Rhyngwladol 2015
Uncategorized

Cynllun Cyfnewid Ieuenctid Rhyngwladol 2015

Matthew Hughes: Had a goalscoring return to Llanelli (Pic. Keith Griffiths)
Gwersyll yr Urdd Llangrannog
Gwersyll yr Urdd Llangrannog

YN YSTOD wythnos olaf gwyliau’r haf, cynhaliodd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion Gynllun Cyfnewid i Ieuenctid Rhyngwladol. Roedd y prosiect hwn yn dilyn y prosiect cyfnewid blaenorol a gynhaliwyd yn yr Eidal y llynedd.

Cynhaliwyd y digwyddiad cyfnewid gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion am yr ail dro yn unig yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Cafodd y prosiect ei ariannu drwy raglen Erasmus+ sy’n rhoi cyfleoedd i weithwyr ieuenctid, neu rannau o sefydliadau ieuenctid, i ddysgu trwy Gynlluniau Gyfnewid neu treulio cyfnod mewn gwlad arall.

Thema’r prosiect oedd ‘Chwaraeon a Bywydau Iach’ a oedd yn cynnwys grwpiau o wyth person ifanc a dau arweinydd yn cynrychioli pob gwlad, gan gynnwys Ceredigion yn cynrychioli Cymru, a sefydliadau ieuenctid o Wlad Pwyl, Malta, yr Eidal a Portiwgal. Mae 50 o bobl yn cymryd rhan yn y cynllun cyfnewid gyda phob cyfranogwr yn cydlynu amrywiaeth eang o chwaraeon, sesiynau diwylliannol, Gweithdai Materion Cyfoes, cyflwyniadau, grwpiau ffocws, gemau rhyng-ddiwylliannol a gweithgareddau adeiladu tîm gyda’r bobl ifanc yn arwain y rhan fwyaf o’r gweithgareddau.

Dywedodd yr aelod Cabinet dros Gwasanaethau Dysgu, Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Hag Harris: “Hoffwn estyn fy llongyfarchion cynhesaf i’r holl bobl ifanc a gymrodd ran yn y prosiect yma. Nid yn unig y gwnaethon nhw ddangos diddordeb amlwg mewn diwylliannau eraill, gwnaethon nhw hefyd arddangos ymrwymiad canmoladwy i ddysgu, a fydd heb os yn eu arwain yn dda i’r dyfodol.”

Nôd cyffredinol y cyfnewid oedd hyrwyddo ffyrdd iach o fyw trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, gan gynyddu ymwybyddiaeth o ymddygiad iach i ddatblygu iechyd, lles cymdeithasol, meddyliol, emosiynol a chorfforol. Gyda phwyslais ar greu mwy o gysylltiadau rhwng Gwledydd Ewrop ac i rannu arfer da/ gwybodaeth am wahaniaethau diwylliannol. Derbyniodd pob cyfranogwr Achrediad Agored Cymru mewn ‘Ymwybyddiaeth Ewropeaidd’ a thystysgrif ‘YouthPass’.

STOD wythnos olaf gwyliau’r haf, cynhaliodd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion Gynllun Cyfnewid i Ieuenctid Rhyngwladol. Roedd y prosiect hwn yn dilyn y prosiect cyfnewid blaenorol a gynhaliwyd yn yr Eidal y llynedd.

Cynhaliwyd y digwyddiad cyfnewid gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion am yr ail dro yn unig yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Cafodd y prosiect ei ariannu drwy raglen Erasmus+ sy’n rhoi cyfleoedd i weithwyr ieuenctid, neu rannau o sefydliadau ieuenctid, i ddysgu trwy Gynlluniau Gyfnewid neu treulio cyfnod mewn gwlad arall.

Thema’r prosiect oedd ‘Chwaraeon a Bywydau Iach’ a oedd yn cynnwys grwpiau o wyth person ifanc a dau arweinydd yn cynrychioli pob gwlad, gan gynnwys Ceredigion yn cynrychioli Cymru, a sefydliadau ieuenctid o Wlad Pwyl, Malta, yr Eidal a Portiwgal. Mae 50 o bobl yn cymryd rhan yn y cynllun cyfnewid gyda phob cyfranogwr yn cydlynu amrywiaeth eang o chwaraeon, sesiynau diwylliannol, Gweithdai Materion Cyfoes, cyflwyniadau, grwpiau ffocws, gemau rhyng-ddiwylliannol a gweithgareddau adeiladu tîm gyda’r bobl ifanc yn arwain y rhan fwyaf o’r gweithgareddau.

Dywedodd yr aelod Cabinet dros Gwasanaethau Dysgu, Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Hag Harris: “Hoffwn estyn fy llongyfarchion cynhesaf i’r holl bobl ifanc a gymrodd ran yn y prosiect yma. Nid yn unig y gwnaethon nhw ddangos diddordeb amlwg mewn diwylliannau eraill, gwnaethon nhw hefyd arddangos ymrwymiad canmoladwy i ddysgu, a fydd heb os yn eu arwain yn dda i’r dyfodol.”

Nôd cyffredinol y cyfnewid oedd hyrwyddo ffyrdd iach o fyw trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, gan gynyddu ymwybyddiaeth o ymddygiad iach i ddatblygu iechyd, lles cymdeithasol, meddyliol, emosiynol a chorfforol. Gyda phwyslais ar greu mwy o gysylltiadau rhwng Gwledydd Ewrop ac i rannu arfer da/ gwybodaeth am wahaniaethau diwylliannol. Derbyniodd pob cyfranogwr Achrediad Agored Cymru mewn ‘Ymwybyddiaeth Ewropeaidd’ a thystysgrif ‘YouthPass’.

online casinos UK

Author