Home » Hedd Wyn: Bardd o heddwch, bardd y gwrthdaro
Uncategorized

Hedd Wyn: Bardd o heddwch, bardd y gwrthdaro

Cerflun: Hedd Wyn yn Tawsfynydd.
Cerflun: Hedd Wyn yn Tawsfynydd.

GANED Ellis Humphrey Evans yn Nhrawsfynydd, ar Ionawr 13 1887, yn fab hynaf i Evan a Mary Evans. Wedi iddo adael yr ysgol yn 14 oed bu’n gweithio fel bugail ar fferm ei rieni, Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd. Yn ei lencyndod bu’n barddoni a chystadlu mewn nifer o eisteddfodau lleol o dan y ffugenw ‘Hedd Wyn’, a thrwy’r rhain fe ddatblygodd ei ddawn fel bardd. Enillodd y gyntaf o’i 6 cadair yn Eisteddfod y Bala yn 1907 am ei awdl ‘Y Dyffryn’, a daeth yn agos iawn at gipio’i gadair gyntaf mewn Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth yn 1916.

Gyda dechrau’r Rhyfel Mawr yn 1914 newidiodd naws gweithiau Hedd Wyn i drafod hunllef y rhyfel ac ysgrifennodd gerddi er cof am gyfeillion a fu farw ar faes y gad. Yn Hydref 1916 dechreuodd Hedd Wyn weithio ar gyfansoddi ei awdl ‘Yr Arwr’, cyn ei orfodi o ganlyniad i Ddeddf Orfodaeth Filwrol 1916 i ymuno â 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a hwylio i Ffrainc ym mis Mehefin 1917. Cyhoeddwyd o lwyfan seremoni’r Cadeirio fod Hedd Wyn wedi’i ladd yn y Rhyfel Mawr, er mawr tristwch i’r gynulleidfa.

Yn absenoldeb yr enillydd, rhoddwyd mantell ddu dros y Gadair ac fe’i hadwaenir fyth ers hynny fel ‘Y Gadair Ddu’. Mae’r Gadair yn cynrychioli cenhedlaeth o Gymry ifanc a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ers 1917, mae’r Ysgwrn wedi’i gadw yn y teulu Evans, gan nai Hedd Wyn, Gerald Williams yn fwyaf diweddar. Ers marwolaeth Hedd Wyn, mae’r teulu wedi croesawu ymwelwyr i’r Ysgwrn, gan gadw at addewid a wnaeth i fam Hedd Wyn, Mary Evans, ‘i gadw’r drws yn agored’, i ymwelwyr o Gymru, Prydain a thu hwnt, sydd wedi’u cyfareddu gan stori Hedd Wyn.

Mae’r Ysgwrn yn cynrychioli cyfnod o hanes cymdeithasol, diwylliannol ac amaethyddol ar droad yr G20. Mae bywyd a chyfraniad llenyddol Hedd Wyn hefyd yn cynrychioli cenhedlaeth goll o lanciau ifanc a aberthasant eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. O’r herwydd, mae etifeddiaeth Hedd Wyn yn arbennig o berthnasol i gymunedau Cymreig yn ogystal â chymunedau ledled Ewrop. A’i rhyw ddawn anwar oedd yn ei enaid? Neu ynteu hiraeth am lawntiau euraid? O’i ôl mae bro’i anwyliaid – dan wyll trwch Heb ei wên a’i degwch pur bendigaid. – Yr Awr

Author