Home » Un o denoriaid Cymru ar y llethr sgïo er budd elusen
Uncategorized

Un o denoriaid Cymru ar y llethr sgïo er budd elusen

welsh11MAE ATYNIADAU Parc Gwledig Pen-bre wedi chwarae rhan arbennig yn Her Cylchdaith Cymru a arweinir gan Rhys Meirion, y tenor rhyngwladol enwog.

Bu’r canwr opera o Gymru a’i dîm, gan gynnwys y digrifwr Tudur Owen, yn teithio ar Segway, yn llithro i lawr y llethr sgïo sych 300 metr o hyd ar ringo, yn neidio ar y tobogan ac yn mynd ar gefn beic i gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch rhoi organau.

Treuliodd Rhys a’r tîm y prynhawn yn y parc yn rhan o ddigwyddiad sy’n para wythnos lle byddant yn teithio o amgylch y wlad gan ddefnyddio cynifer o ddulliau teithio â phosib. Mae’r canwr hefyd yn lledaenu’r neges am elusen a lansiwyd er cof am ei ddiweddar chwaer ac sy’n ceisio cefnogi pobl sydd angen organau yng Nghymru a’r teuluoedd yng Nghymru sydd wedi colli anwyliaid oedd wedi rhoi eu horganau.

Ar ddiwedd y prynhawn cawsant eu cludo mewn cerbyd 4×4 ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm cyn symud ymlaen i Borthcawl.

Cyrchfan terfynol y grŵp oedd â’r Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen

Dywedodd y Cynghorydd Meryl Gravell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin: “Cafodd y grŵp amser gwych yn y parc a buon nhw’n defnyddio rhai o’n dulliau teithio unigryw. Hwn oedd y tro cyntaf iddyn nhw ddefnyddio Segway a’r Ringos a chawsant lawer o hwyl wrth gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch achos pwysig. Roeddem ni wrth ein boddau o gael chwarae rhan fach er mwyn eu helpu i gyflawni hynny.”

Hyd yn hyn mae’r tîm wedi teithio drwy’r awyr, dros y dŵr, drwy’r mynyddoedd ac ar y ffyrdd er budd elusen a lansiwyd yn sgil marwolaeth ei chwaer ac sy’n cefnogi pobl sydd angen organau, a’r teuluoedd yng Nghymru sydd wedi colli anwyliaid oedd wedi rhoi eu horganau.

Dywedodd Rhys Meirion, un o denoriaid Cymru: “Rydym ni wedi cael ymateb gwych gan bawb hyd yn hyn ac mae wedi bod yn eithaf syfrdanol ac yn gadarnhaol iawn.”

O 1 Rhagfyr bydd y ffordd yr ydym yn dewis bod yn rhoddwyr organau yng Nghymru yn newid. Bydd Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 yn cyflwyno system feddal o optio allan o ran cydsynio i’ch organau a’ch meinweoedd gael eu rhoi pan fyddwch yn marw. Mae hyn yn cael ei alw’n “gysyniad tybiedig” hefyd.

Bydd y gyfraith yn golygu os ydych o blaid rhoi eich organau ond nad ydych am ba reswm bynnag wedi cofrestru i roi organau, y caiff ei gymryd yn ganiataol eich bod wedi cydsynio i fod yn rhoddwr organau. Os nad ydych am fod yn rhoddwr, am y tro cyntaf byddwch yn gallu cofnodi penderfyniad i wneud hynny’n glir.

online casinos UK

Author